Neidio i'r prif gynnwy

Jackie, aelod arobryn o'r staff, yn cael ei hanrhydeddu am gyfrannu at driniaeth arloesol

01.07.2022

Mae un aelod o staff y Bwrdd Iechyd wedi cael ei hanrhydeddu gan fenter elusennol am ei chyfraniad at ddatblygu gwasanaethau arloesol sy'n helpu i baratoi cleifion canser i gael triniaethau.

Mewn digwyddiad mawreddog yng Nghaerdydd yr wythnos diwethaf, cyflwynwyd gwobr Arweinydd Datblygol i Jackie Pottle, Arweinydd Therapïau Proffesiynol Perthynol i Iechyd Macmillan ar gyfer gwasanaethau Canser.

Mae hi hefyd wedi gwneud cyfraniad allweddol at ddatblygu cymorth ynghylch blinder sy'n gysylltiedig â chanser, ar gyfer pobl y mae pob math o'r clefyd arnynt.

Roedd y gydnabyddiaeth yn rhan o Fenter Canser Moonshine, sy'n dathlu gwaith i frwydro canser yn y GIG yng Nghymru.

Fe wnaeth y digwyddiad ddathlu cyfraniadau staff y GIG o bob cwr o Gymru, yn cynnwys partneriaid, sydd wedi cynnal gwasanaethau canser ac arloesi yn y maes, er gwaethaf amgylchiadau eithriadol y ddwy flynedd ddiwethaf.

Clinig diagnosis cyflym o ganser 'safon aur' i'w lansio yr haf hwn - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (gig.cymru)

Roedd Jackie, sy'n gweithio i Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, wrth ei bodd â'r ffaith fod ei gwobr yn cydnabod gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd.

Dywedodd: "Roedd cael fy nghynnwys yn y rhestr fer am y wobr yn syndod mawr i mi, heb son am ennill. Mae'n wych bod gwaith gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd wedi cael ei amlygu trwy gyfrwng y gwobrau hyn.

"Roeddwn yn falch o gael cyfle i gynrychioli'r therapyddion gwych sy'n cynorthwyo cleifion canser mewn llawer o leoliadau gwahanol.

"Mae datblygiadau cyffrous yn digwydd ledled Gogledd Cymru; mae gwasanaethau adsefydlu dan arweiniad therapïau yn cychwyn yn nwyrain ein rhanbarth, mae gwasanaethau ynghylch blinder cysylltiedig â chanser yn cael eu datblygu, ac mae rôl therapyddion o ran cynorthwyo cleifion y mae canserau gynaecolegol arnynt yn cael ei hystyried.

“Rwyf mor falch o fod yn weithiwr proffesiynol perthynol i iechyd ac rwy'n edrych ymlaen at barhau i ddwyn sylw at sut gall eu sgiliau helpu cleifion, gofalwyr a chydweithwyr eraill."

Gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd yw'r aelodau staff hynny sy'n darparu cymorth seiliedig ar dystiolaeth i gleifion a gofalwyr i'w galluogi i hunan-reoli eu cyflwr a byw mor iach ac mor dda ag y bo modd.

Mae Jackie wedi datblygu dull gwahanol o reoli cleifion y mae canser yr ofarïau arnynt yn ystod cyfnod eu triniaeth.

Un maes arloesol yw gwaith cyn adsefydlu, sef paratoi'r merched hynny i fod ar eu gorau yn gorfforol ac yn feddyliol cyn eu triniaeth, yn ogystal â'u helpu yn ystod eu triniaeth ac i'w gorffen yn achos pob math o ganser.

Fel rhan o'i gwaith, mae hi hefyd wedi sicrhau nawdd i addysgu therapyddion, i sicrhau eu bod yn fwy ymwybodol o'r mathau o gymorth y mae ar gleifion canser eu hangen.

Bydd camera gama newydd yn Ysbyty Maelor Wrecsam yn helpu i gyflymu diagnosis - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (gig.cymru)

Dywedodd Gareth Evans, Cyfarwyddwr Gweithredol Dros Dro Therapïau a Gwyddorau Iechyd: "Mae'r gwaith y mae Jackie a'i thîm wedi'i gyflawni wedi cael cydnabyddiaeth haeddiannol ac rydym ni oll yn falch iawn o'i hymdrechion.

"Mae'n bwysig ein bod yn trin cleifion canser yn effeithiol ac yn dosturiol, ond i wneud hynny, mae eu paratoi at y driniaeth, eu cynorthwyo yn ystod y driniaeth honno a'u helpu i reoli eu hiechyd ar ôl y driniaeth yn hanfodol.

"Mae'n galonogol bod y gwaith gwych rydym yn ei wneud yma yng Ngogledd Cymru yn cael ei gydnabod y tu hwnt i'r rhanbarth.

Diben Menter Canser Moonshine yw canfod, ariannu a sbarduno pobl wych a syniadau dewr i sicrhau bod Cymru yn arweinydd byd-eang o ran goroesi canser. Ar hyn o bryd, mae 18 o brosiectau sydd wedi'u hariannu gan y Fenter yn mynd rhagddynt ledled Cymru.

Gan gyfeirio at Wobrau Menter Canser Moondance, dywedodd Dr Megan Mathias, Prif Weithredwr y Fenter: "Sefydlwyd y gwobrau hyn i ddathlu ac i ddiolch i'r bobl sydd wedi ymroi i wella ac arloesi ym meysydd canfod a diagnosio a llwybrau triniaethau mewn gwasanaethau canser ledled Cymru.

“Trwy ddwyn sylw at y bobl hyn, rydym yn gobeithio y gallwn helpu i ysbrydoli atebion y dyfodol i sicrhau y bydd cleifion yn goroesi. Rydym yn falch iawn fod cymaint o bobl o wasanaethau gofal iechyd ledled Cymru wedi dod i ddathlu gyda ni.”

I gael rhagor o wybodaeth, trowch at: https://moondance-cancer.wales/