Neidio i'r prif gynnwy

Llinos Edwards, BEM

Mae Llinos Edwards, sydd wedi gweithio i’r GIG ers dros 40 mlynedd, yn derbyn Medal yr Ymerodraeth Brydeinig am ei gwaith gyda’r Tîm Plant sy’n Derbyn Gofal. ​ 

Dywedodd Llinos: “Crëwyd ein rôl statudol arbenigol dros 20 mlynedd yn ôl ac roeddwn yn ffodus iawn i gael un o’r swyddi cyntaf. ​ Ein prif ddiben yw sicrhau tra bod plant a phobl ifanc yng ngofal yr awdurdodau lleol bod eu holl anghenion iechyd yn cael eu bodloni. 

“I gyflawni hyn rydym yn gweithio’n agos iawn gyda’n cydweithwyr iechyd ac awdurdodau lleol, gofalwyr, lleoliadau preswyl, teuluoedd ac yn bwysicaf oll y plant a’r bobl ifanc eu hunain. ​ 

“Rydym yn dîm o nyrsys a staff gweinyddol rhagorol sy’n cydlynu popeth a thros y blynyddoedd rydym wedi adeiladu rhwydwaith cryf yng Nghymru a’r DU. Ar draws y Bwrdd Iechyd mae’r tîm yn cefnogi dros 1,800 o blant a phobl ifanc.”

Bu Llinos, sydd wedi ei lleoli yng Ngwynedd, yn Arweinydd Tîm cyn ymddeol a dychwelyd i weithio fel nyrs i’r tîm. ​

Ychwanegodd Llinos: “Mae’n braf gweld fy enw ar y rhestr, ond mae’r tîm rwy’n gweithio gyda nhw mor gryf a gwych, allwn i ddim gwneud y rôl ar fy mhen fy hun. ​

“Mae'n gwneud i mi deimlo'n wylaidd iawn o wybod fy mod yn derbyn y wobr hon, ond mae’r tîm cyfan yn deilwng o hyn, felly byddaf yn ei derbyn ar eu rhan nhw hefyd. Diolch i'r rhai a gymerodd yr amser i'm henwebu, diolch yn fawr iawn.” ​