Rhowch eich barn ar ddyfodol gwasanaethau yn Ysbyty Cymuned Tywyn

20 Tachwedd 2026 

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi lansio ymgynghoriad cyhoeddus 14 wythnos o hyd ar ddyfodol gwasanaethau yn Ysbyty Cymuned Tywyn heddiw (Dydd Llun 16 Tachwedd 2026).

Mae'r ymgynghoriad, sy'n dod i ben ddydd Llun 22 Chwefror 2027, yn ceisio barn ar ddau opsiwn – ailagor Ward Dyfi gyda 10 gwely i gleifion mewnol, neu ddatblygu hwb gofal iechyd cymunedol heb welyau cleifion mewnol.

Nid oes penderfyniad terfynol wedi’i wneud ac nid oes gan y Bwrdd Iechyd opsiwn sy’n cael ei ffafrio. Anogir pobl i roi sylwadau ar un o'r opsiynau neu'r ddau opsiwn, rhannu eu profiadau a thystiolaeth, neu awgrymu dull gwahanol.

Cafodd Ward Dyfi ei chau dros dro ym mis Ebrill 2023 oherwydd heriau yn ymwneud â'r gweithlu nyrsio. Ers hynny, cyflwynwyd gwasanaethau cymunedol, ac mae gwaith wedi’i wneud i archwilio sut y gallai gwasanaethau fodloni anghenion lleol yn ddiogel ac yn gynaliadwy.

Cynhelir yr ymgynghoriad ar y ddau opsiwn hyn:

  • Opsiwn A - Ailagor Ward Dyfi: Adfer 10 gwely i gleifion mewnol er mwyn darparu gwasanaethau adsefydlu, adferiad, gofal camu i fyny a chamu i lawr, a gofal diwedd oes. Ni fyddai'r gwasanaethau a gyflwynwyd ers i'r ward gau dros dro yn parhau.
  • Opsiwn B - Datblygu gwasanaethau cymunedol heb welyau i gleifion mewnol yn Nhywyn. Datblygu'r ysbyty fel hwb iechyd cymunedol gydag ystod ehangach o driniaethau, therapïau, clinigau cleifion allanol a gwasanaethau cymunedol. Ni fyddai gwelyau cleifion mewnol yn Nhywyn o dan yr opsiwn hwn.

Mae'r ddogfen ymgynghori lawn a'r crynodeb yn egluro beth fyddai pob opsiwn yn ei olygu i bobl leol a'r gwasanaethau.

Dywedodd Paolo Tardivel, Cyfarwyddwr Dros Dro dros Strategaeth a Chynllunio:

“Rydym yn gwybod cymaint mae Ysbyty Cymuned Tywyn yn ei olygu i bobl leol, ac rydym yn cydnabod cryfder y teimladau ynghylch Ward Dyfi, yn ogystal â’r ansicrwydd a achoswyd oherwydd ei chau am gyfnod hir.

"Mae'r ymgynghoriad hwn yn gyfle i bawb sydd â diddordeb yn y gwasanaethau hyn helpu i lunio eu dyfodol. Rydym am glywed barn unigolion yn ogystal â sefydliadau neu grwpiau cymunedol, gan gynnwys y rhai efallai na chlywyd eu barn o'r blaen.

Nid oes penderfyniad wedi’i wneud ac nid oes gennym opsiwn sy’n cael ei ffafrio. Byddwn yn ystyried adborth o'r ymgynghoriad, tystiolaeth newydd a phob cynnig amgen cyn i'r Bwrdd ddod i benderfyniad.”

Mae'r dogfennau ymgynghori, gwybodaeth ategol, holiadur a manylion am sesiynau galw heibio ar gael  yn bipbc.gig.cymru/tywyn. Bydd y dudalen we yn cael ei diweddaru drwy gydol yr ymgynghoriad, gan gynnwys yr adran cwestiynau a ofynnir yn aml.

Gall pobl ymateb yn unigol neu ar ran grŵp cymunedol neu sefydliad:

  • Ar-lein: Cwblhewch yr holiadur drwy dudalen we'r ymgynhoriad.
  • Wyneb yn wyneb: Dewch i sesiwn galw heibio i drafod yr opsiynau a rhannu eich adborth
  • Drwy e-bost: Sut if gyfranogi shapingtywyn@wales.nhs.uk
  • Trwy'r post: Rhadbost RUJC-JGXT-RRTR, Ymgynghoriad BIPBC, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Ysbyty Gwynedd, Penrhosgarnedd, Bangor LL57 2PW.
  • Ar y ffôn: Ffoniwch 0300 085 4646 i roi adborth, gofyn am gymorth i ymateb, neu ofyn am gopïau papur neu fformatau hygyrch.
  • Gellir cyflwyno ymatebion yn Gymraeg neu yn Saesneg, a byddant yn cael eu trin yn gyfartal.

Croesewir syniadau amgen neu gynigion datblygedig erbyn y dyddiad cau. Nid oes templed gofynnol, er caiff cyfranwyr eu hannog i egluro eu cynnig, pwy fyddai'n elwa, ac unrhyw dystiolaeth ategol. Caiff dewisiadau amgen eu hasesu yn erbyn yr un meini prawf cyhoeddedig ag a ddefnyddiwyd ar gyfer yr opsiynau ar y rhestr fer.

Ar ôl i'r ymgynghoriad ddod i ben, bydd adroddiad a baratowyd yn annibynnol yn crynhoi'r ymatebion a'r themâu a godwyd. Bydd y Bwrdd yn ystyried yr adborth hwn, ynghyd â thystiolaeth a chynigion amgen, cyn dod i unrhyw benderfyniad terfynol.

Dylid derbyn pob ymateb erbyn dydd Llun 22 Chwefror 2027.