Neidio i'r prif gynnwy

Sut i gyrchu therapi iaith a lleferydd

Mae gennym bolisi 'cyfeirio agored' ac rydym yn derbyn cyfeiriadau gan rieni/gofalwyr a gweithwyr proffesiynol.  Caiff cyfeiriadau eu brysbennu gan therapyddion Iaith a Lleferydd cymwys a allai gysylltu â chyfeirwyr i gael rhagor o wybodaeth.  Yn unol â pholisi BIPBC, bydd gofyn i rieni a gofalwyr gysylltu â ni i gytuno ar apwyntiad. Isod, ceir manylion ynghylch sut i gyfeirio yn eich ardal.

Gorllewin – Ynys Môn a Gwynedd

I ofyn am ffurflen gyfeirio, cysylltwch â'r adran ar 03000 851 758 neu trwy e-bostio BCU.SALTReferralsWest@wales.nhs.uk. Gellir postio neu e-bostio'r ffurflen gyfeirio atoch chi.

Llenwch y ffurflen gyfeirio hon a'i hanfon at: Adran Therapi Iaith a Lleferydd, Bodfan, Ysbyty Eryri, Caernarfon, Gwynedd, LL55 2YE.

Neu, gallwch ei he-bostio at:  BCU.SALTReferralsWest@wales.nhs.uk.

Canol - Conwy a Sir Ddinbych

I ofyn am ffurflen gyfeirio, cysylltwch â'r adran ar 03000 855 975 neu trwy e-bostio BCU.SALTReferralsCentral@wales.nhs.uk. Gellir postio neu e-bostio'r ffurflen gyfeirio atoch chi.

Llenwch y ffurflen gyfeirio hon a'i hanfon at: Adran Therapi Iaith a Lleferydd, Ysbyty Brenhinol Alexandra, Rhodfa'r Môr, Y Rhyl, LL18 3AS.

Neu, gallwch ei he-bostio at: BCU.SaltReferralsCentral@wales.nhs.uk .

Dwyrain - Wrecsam a Sir y Fflint

I ofyn am ffurflen gyfeirio, cysylltwch â'r adran ar 03000 848166 neu trwy e-bostio BCU.SALTReferralsEast@wales.nhs.uk. Gellir postio neu e-bostio'r ffurflen gyfeirio atoch chi.

Llenwch y ffurflen gyfeirio hon a'i hanfon ar: Tîm Therapi Iaith a Lleferydd Paediatreg, Canolfan Iechyd Plant Wrecsam, Ffordd Croesnewydd, LL13 7ZA

Neu, gallwch ei he-bostio at:  BCU.SaltReferralsEast@wales.nhs.uk