Neidio i'r prif gynnwy

Strategaethau Ystafell Ddosbarth

Mae Therapyddion Galwedigaethol yn gweithio gydag ysgolion i helpu i gynnwys y plant yn eu haddysg, er mwyn cyflawni eu potensial.

Sut ydym yn gwneud hyn?

1. Arsylwi ymgysylltiad cyfredol y plentyn yn yr ysgol
2. Deall anawsterau'r plentyn
3. Trafod sut i hwyluso'r cymorth sydd ei angen
4.  Arwain y plentyn i hyrwyddo ei addysg ei hun

Trefn yn y dosbarth

  • Cynlluniwch amserlen gyda'r plentyn sy'n cynnwys ei drefn ddyddiol a'i amserlen, gyda'r gweithgareddau mwyaf anodd yn y bore. Gosodwch yr amserlen ble mae'n eistedd fel ei fod yn gallu cyfeirio ati'n hawdd
  • Caniatewch am egwyl neu gyfleoedd i ymlacio o fewn a rhwng gweithgareddau sydd angen defnyddio llawer o sgiliau canolbwyntio
  • Rhowch rybudd i'r plentyn cyn bod angen iddo symud ymlaen i'r dasg nesaf fel bod ganddo amser i roi trefn arno’i hun

Strategaethau trefnu ar gyfer y plentyn

  • Dyrannu ei le dynodedig ei hun i'r plentyn i gadw eiddo fel ei fod yn gwybod ble i ddod o hyd i bethau yn gyflym ac yn hawdd
  • Defnyddiwch amserydd wyau neu 'stopwatch' i helpu'r plentyn i gwblhau tasg o fewn yr amser y cytunwyd arno
  • Ceisiwch greu set gryno o gyfarwyddiadau ar ben y dudalen ble gellir rhoi tic wrth iddo gwblhau'r camau
  • Wrth roi cyfarwyddiadau hirach, defnyddiwch ucholeuydd i dynnu sylw at bwyntiau allweddol, neu defnyddiwch nodiadau 'post-it' lliwgar i ysgogi ysgogiadau cof gweledol

Rhoi trefn ar yr ystafell

  • "Mae ystafell ddosbarth taclus yn creu meddwl taclus" - trefnwch yr ystafell ddosbarth fel ei bod yn glir ac yn daclus i wella sgiliau canolbwyntio a sylw
  • ​​​Osgowch orlenwi ardaloedd gyda symbyliadau gweledol
  • Caniatewch i eitemau hanfodol yn unig fod ar ofod desg y plentyn i leihau symbyliadau gweledol
  • Rhowch y plentyn i eistedd yn agos at yr athro, ond eglurwch fod hwn yn gyfle yn hytrach na chosb
  • Ceisiwch greu cyfleoedd "cyfaill" ble bydd y plentyn yn gweithio ochr yn ochr gyda chyfoedion cynhyrchiol
  • Yn ystod cyfnodau hirach o wneud gweithgaredd ar ei eistedd, anogwch y plentyn i eistedd mewn ardal ble gall godi a symud heb aflonyddu ar ei ffrindiau dosbarth
  • Ceisiwch greu amgylchedd eistedd hyblyg gydag amrywiaeth o ddewis o seddi. Gall byrddau 'wobble' wella osgo a safle eistedd y plentyn ar gyfer ysgrifennu sy'n arwain at lai o wingo a chynyddu'r lefelau canolbwyntio

Addasu'r cynllun sesiwn

  • Cynigiwch gyfarwyddiadau yn llafar ac yn ddi-eiriau i sicrhau dealltwriaeth fwy effeithiol. Dylid cynnig cyfarwyddiadau clir, cryno mewn fformat ysgrifenedig neu ddelweddau a dylid rhoi cyfle i'r plentyn ailadrodd y dasg ar lafar os oes angen gydag amser ar gyfer unrhyw gwestiynau
  • Ble bydd tasg yn fwy cymhleth, torrwch hi lawr yn ddarnau a'i chyflwyno un cam ar y tro
  • Caniatewch fwy o amser i gwblhau gwaith
  • Pan gyflwynir tasg newydd, caniatewch ar gyfer gradd cywirdeb is
  • Darparwch anogaeth ac adborth llafar ac yn ddi-eiriau. Cyflwynwch system wobrwyo
  • Canolbwyntiwch ar yr atebion cywir yn hytrach na chanolbwyntio ar y sawl sy'n anghywir a all gynyddu'r teimladau o ddigalondid
  • Canolbwyntiwch ar yr ymdrech yn hytrach na faint o waith sydd wedi ei greu, drwy osod llai o waith. Mae gan y plentyn fwy o gyfle i ddysgu'r gwaith yn fwy trwyadl fel hyn