Neidio i'r prif gynnwy

Sisyrnau

Mae gallu defnyddio siswrn yn sgil sy'n datblygu'n araf drwy gydol plentyndod a bydd plant yn datblygu’r sgil ar wahanol oedrannau yn ddibynnol ar ba gam datblygiadol maent wedi ei gyrraedd, eu cymhelliant ar gyfer y dasg a chyfle i ymarfer. 

Er mwyn defnyddio siswrn yn gywir, mae'r plentyn angen cael y sgiliau canlynol:
Cydbwysedd eistedd
Sefydlogrwydd ysgwydd, elin ac arddrwn
Deheurwydd motor mân
Symud braich a llaw dwyochrog
Cynllunio motor

Bydd y mwyafrif o blant yn dysgu drwy ymarfer ac awgrymiadau llafar a gweledol, ac efallai y bydd ymarfer ar eu pennau eu hunain yn ddigon i rai. Gall eu hatgoffa i 'godi bawd' yn barhaus eu helpu i wella eu gafael a'i gwneud yn haws i dorri'r papur. Os oes angen cymorth ychwanegol ar blentyn, ystyriwch addasu'r dasg i sicrhau llwyddiant, gallwch wneud hyn trwy ddarparu siswrn gyda llafnau byrrach sy'n haws eu trin, defnyddio cerdyn tenau yn hytrach na phapur gan fod hynny'n haws i'w ddal, torri taflenni mawr o bapur yn chwarteri, a thrwy ddechrau gyda llinellau mwy trwchus sy'n culhau yn raddol. Gall defnyddio sticeri neu ddotiau helpu i awgrymu troi corneli a newid cyfeiriad. 

Yma gallwch ddod o hyd i fwy o gyngor ar ddatblygu sgiliau siswrn gartref ac yn yr ysgol. Os yw plentyn yn parhau i gael anhawster rheoli siswrn arferol, ceisiwch ddefnyddio siswrn sbring neu os yw eich plentyn yn cael anhawster yn defnyddio siswrn, mae ystod o sisyrnau addasol ar gael.  

Fideos ar-lein i helpu gyda sgiliau torri drwy ddefnyddio sisyrnau:
Dysgu sut mae defnyddio sisyrnau