Neidio i'r prif gynnwy

Llawysgrifen

Mae sgiliau llawysgrifen yn cynnwys nifer o elfennau cymhleth ac mae'n cymryd y mwyafrif o'r blynyddoedd oedran ysgol gynradd i'w ddatblygu. Nid ydym wedi'n dylunio'n gorfforol i gymryd rhan mewn gwaith agos am gyfnodau hir felly mae rhwystrau corfforol yn ogystal â rhwystrau addysgu i'w goroesi ar y ffordd.  

Mae plant yn dechrau datblygu sgiliau gafael mewn pensil pan fyddant oddeutu blwydd oed, mae'n bwysig i blant gael y cyfle i ddatblygu'r sgiliau o'r oedran yma.

Mae llawysgrifen yn dechrau gyda chopïo siapiau syml, mae hyn yn hanfodol ar gyfer datblygu sgiliau ffurfio llythrennau ond anghofir amdano'n aml. Unwaith mae plant yn gallu ffurfio eu llythrennau, maent yn mynd yn eu blaen i ddysgu am ysgrifennu o fewn gofod dynodedig, ysgrifennu ar y llinell, addasu'r maint ac ychwanegu'r llefydd gwag rhwng y geiriau. 

Mae'n hanfodol bod plant sydd ag anawsterau â symudiad yn dysgu arddull ffurfio llythrennau sy'n eu helpu yn hytrach na'u rhwystro - mae hyn yn cynnwys dysgu cysondeb mannau cychwyn ar gyfer llythrennau, cyfeiriad ffurfio llythrennau a maint llythyrau. Os na all plentyn ddarllen neu neilltuo ystyron i eiriau a llythyrau, yn gyffredinol nid ydynt yn barod i ddysgu ysgrifennu a bydd yn cael ei ystyried ar lefel cyn-ysgrifennu - dylai'r datblygiad ar y cam hwn ganolbwyntio ar reoli pensil a chopïo siâp. 

Unwaith mae plentyn wedi dysgu am ffurfio, maint a bylchau sylfaenol yna mae angen ymarfer, ymarfer ac ymarfer eto - yr her fwyaf yw cadw'r plentyn yn llawn cymhelliant yn ystod y cyfnod hwn.   

Isod mae gennym nifer o daflenni cyngor a all fod yn berthnasol i'ch plentyn, yn ddibynnol ar ba gam mae wedi ei gyrraedd.

Sgiliau cyn-ysgrifennu a datblygiad motor mân:
Gweithgareddau motor mân ar gyfer plant 3-4 mlwydd oed
Gweithgareddau motor mân ar gyfer plant 5-10 mlwydd oed
Gweithgareddau motor mân ar gyfer plant 11-16 mlwydd oed
Datblygu'r llaw ar gyfer gafael mewn pensil
Ffafriaeth llaw
Gweithgareddau gafaeliad pinsiwrn
Trin mewn llaw
Gweithgareddau cyn-ysgrifennu

Llawysgrifen:
Ffurfio llythrennau
Ysgrifennu ar y llinellau
Gofod rhwng y geiriau
Sut i ymarfer maint y llythrennau drwy ddefnyddio uwcholeuwyr

Gripiau pensil:
Grip pensil-grotto
Grip pensil-pinsiwrn
Grip pensil-croes
Grip pensil meddal

Sblintiau bawd:
Sblint dolen y bawd
Gwasanaeth sblintio y tu ôl i'r bawd

Offer y dosbarth:
Llethrau ysgrifennu
Clustog Movin'Sit
Clustog Sbwng siâp Lletem

Fideos ar-lein i helpu gyda llawysgrifen:
Ffurfio llythrennau - llythrennau bach