Profiad Gwaith gyda Therapi Galwedigaethol

Mae ein gwasanaethau Therapi Galwedigaethol yn Wrecsam a Sir y Fflint a Chonwy a Sir Ddinbych yn cynnig lleoliadau profiad gwaith sy'n para wythnos. Yn ystod yr wythnos, byddwch yn cael y cyfle i ddysgu am rôl Therapyddion Galwedigaethol ac i weld sut maent yn rhoi cymorth o bobl o ran cymryd rhan yn y gweithgareddau sy'n bwysig iddynt. Lle bo'n bosibl, byddwch yn profi amrywiaeth o wasanaethau a lleoliadau ym maes Therapi Galwedigaethol. 

Pwy sy'n gallu ymgeisio? 

I gael eich ystyried am leoliad profiad gwaith, bydd angen y canlynol arnoch: 

  • bydd angen i chi fod yn 16 oed neu'n hŷn 

  • bydd angen i chi fod â diddordeb mawr mewn Therapi Galwedigaethol ac yn ystyried gwneud cais i astudio Therapi Galwedigaethol yn y brifysgol 

  • Bydd angen i chi wneud eich trefniadau teithio eich hun - efallai y caiff lleoliadau eu cynnal mewn lleoedd gwahanol ar ddiwrnodau gwahanol 

Sut i wneud cais 

I ddatgan diddordeb mewn lleoliad profiad gwaith, anfonwch e-bost at y Tîm Profiad Gwaith Therapi Galwedigaethol gan nodi'r ardal y mae gennych ddiddordeb ynddi: 

Conwy a Sir Ddinbych (Y Canol) 

BCU.OTWorkExperienceCentral@wales.nhs.uk 

Wrecsam a Sir y Fflint (Y Dwyrain) 
BCU.OTWorkExperienceEast@wales.nhs.uk 

Bydd y tîm yn anfon ffurflen gais atoch i chi ei chwblhau.