Conwy a Sir Ddinbych

Mae ein timau Therapi Galwedigaethol yn darparu cymorth mewn ysbytai a chymunedau ledled Gogledd Cymru. 

Rydym yn helpu pobl y mae eu hiechyd corfforol neu feddyliol yn effeithio ar eu gallu i ymgymryd â gweithgareddau bob dydd. Mae ein gwasanaethau Therapi Galwedigaethol cymunedol a’n gwasanaethau Therapi Galwedigaethol yn yr ysbyty yn gweithio gyda phobl i hyrwyddo annibyniaeth, cefnogi adferiad, a’u helpu i wneud y pethau sy’n bwysig iddynt.