Neidio i'r prif gynnwy

Podiatreg ac Orthoteg

Podiatreg yw’r gangen o ofal iechyd sy’n ymwneud â rhoi diagnosis a thrin  problemau’n ymwneud ag iechyd y traed. I raddau helaeth, mae wedi disodli’r term mwy cyffredin ‘trin traed neu giropodi’.

Mae’r podiatrydd yn gyfrifol am asesu a thrin amrediad eang o gyflyrau gan sicrhau bod y driniaeth fwyaf effeithiol yn cael ei chynnig.

Biomecaneg

Astudiaeth yw biomecaneg o’r problemau sy’n codi yn sgil y ffordd mae’r coesau a’r traed yn gweithio a sut mae pobl yn cerdded (cerddediad), a’r driniaeth ar gyfer hyn. Ambell dro mae poen mewn troed, pen-glin neu glun yn gysylltiedig â cherddediad a bydd podiatregwyr yn asesu a  thrin hyn gydag orthoses (gwadnau mewnol).  Pwrpas y driniaeth yw gwella neu adfer y ffordd mae’r droed/goes yn gweithio.

Orthoses (gwadnau mewnol)

Mae podiatregwyr yn gallu rhoi gwahanol fathau o orthoses (gwadnau mewnol) ar bresgripsiwn. Gellir cynhyrchu orthoses i liniaru poen neu anghysur, neu i wella’r ffordd mae’r droed yn gweithio. Bydd pob gwadn fewnol yn cael ei rhoi ar bresgripsiwn a’i chynhyrchu’n benodol ar gyfer cleifion unigol. 

Diabetes

Mae traed iach yn bwysig i bobl â diabetes. Mae diabetes yn gallu effeithio ar nerfau a chyflenwad gwaed y droed, ac nid yw’r droed yn gallu gwella cystal. Mae traed y sawl sydd â diabetes hefyd yn fwy tebygol o ddioddef heintiau. Defnyddir offer ac archwiliadau clinigol i fonitro iechyd y traed. Rhoddir triniaeth sy’n cyd-fynd ag anghenion yr unigolyn.

Trin clwyfau

Mae podiategwyr yn rhoi diagnosis o ddoluriau a chlwyfau ar draed pobl â diffygion fasgwlaidd neu niwrolegol (h.y. pan mae’r cyflenwad gwaed i’r droed yn is a llai o deimlad ynddi), a’u trin. Bydd podiategwyr yn defnyddio ymarfer wedi’i seilio ar dystiolaeth a gorchuddion ac yn cydweithio’n aml â nyrsys ardal cymunedol.

Casewinedd

Blerwch wrth dorri ewinedd y traed yw achos casewinedd yn aml, a hynny’n arwain at bigyn bach o ewin yn torri’r croen ac yn tyfu i mewn i’r bodyn. Yn aml, gwelir bod esgidiau sy’n ffitio’n wael yn gwneud y cyflwr yn waeth. Bydd y corff yn ymateb trwy geisio gwella’r clwyf ac wrth wneud hynny gall greu lwmpyn o feinwe a elwir yn feinwe gor-ronynnog.

Mae’n hawdd i’r bodyn gael ei heintio pan mae yn y cyflwr yma a gall y rhan o’r ewin sy’n tyfu at i mewn ei wneud yn boenus hefyd. Gellir trin y cyflwr mewn dull ceidwadol (heb lawdriniaeth) neu trwy lawdriniaeth.

Rhoddir anaestheteg lleol ar gyfer y driniaeth lawfeddygol er mwyn rhewi’r bodyn. Yna bydd tamaid bach o’r ewin yn cael ei dynnu a rhoddir cemegyn (ffenol) i atal y rhan honno o’r ewin rhag aildyfu. Oddeutu hanner awr a gymer y llawdriniaeth a bydd y claf yn gallu cerdded yn syth wedyn.

Bydd y bodyn yn gwella mewn tua saith wythnos ac wedyn bydd plât yr ewin ychydig yn gulach, er na fyddai neb yn sylwi ar hyn fel arfer. Os bydd rhywun yn sylwi ar y pigyn ewin yn ddigon cynnar, mae’n bosib ei dynnu heb  anaestheteg.