Mae diabetes yn gyflwr sy'n achosi i lefel siwgr gwaed unigolyn fynd yn rhy uchel. Mae dau brif fath o ddiabetes:
- Diabetes math 1 yw pan mae system imiwnedd y corff yn ymosod ar y celloedd sy'n cynhyrchu inswlin ac yn eu dinistrio. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth a chymorth ar ddiabetes Math 1 yma.
- Diabetes math 2 yw lle nad yw’r corff yn cynhyrchu digon o inswlin, neu lle nad yw celloedd y corff yn adweithio gydag inswlin. Gallwch wirio’ch risg diabetes Math 2 gan ddefnyddio’r offeryn cyfrifo ar wefan Diabetes UK.
Ein gwasanaethau diabetes
Mae ein timau arbenigol diabetes yn darparu gwasanaethau i gefnogi oedolion sy’n byw â diabetes yng Ngogledd Cymru. Mae hyn yn cynnwys:
- Clinigau arbenigol diabetes
- Gwybodaeth a chyngor i'r rhai gyda Diabetes Math 1 a Math 2
- Cyrsiau cyfrif carbohydradau
- Inswlin a meddyginiaeth i reoli diabetes
- Gwasanaeth pwmp inswlin
- Gwasanaeth pontio ar gyfer pobl ifanc - proses strwythuredig dwy flynedd o hyd i gefnogi plant hyd at oedolion ifanc sy’n byw â diabetes
- Adolygiad gan nyrsys arbenigol i asesu'r rhai sydd â diabetes cymhleth er mwyn helpu i gynllunio a darparu triniaeth
- Gwasanaeth cymorth a chyngor dros y ffôn
- Gwybodaeth a chymorth i ofalwyr
- Monitro glwcos fflach