Neidio i'r prif gynnwy

Sensitifrwydd Synhwyraidd

Beth yw Prosesu Synhwyraidd?

Prosesu Synhwyraidd yw gallu'r ymennydd i ddehongli, trefnu ac ymateb yn briodol i wybodaeth mae'n ei dderbyn gan 8 system synhwyraidd y corff. Mae'n ymateb awtomatig, sy'n ein helpu ni ymdopi â holl ofynion yr amgylchedd bob dydd. Mae'r holl wybodaeth rydym yn ei gael am y byd yn dod drwy ein synhwyrau h.y. blas, arogl, golwg, clyw, o'n synnwyr o gyffwrdd, symud, grym disgyrchiant ac osgo'r corff. 

Mae gan bob un o'n synhwyrau dderbynyddion sy'n casglu gwybodaeth sy'n cael ei anfon i'n hymennydd i'w roi at ei gilydd a'i ddeall. Mae celloedd yn ein croen yn anfon gwybodaeth am olau, cyffyrddiad, poen, gwres a phwysedd. Mae rhan fewnol ein clust yn canfod symudiad a newidiadau yn osgo ein pen. Mae derbynyddion yn ein cyhyrau, tendonau a chymalau'n rhoi ymwybyddiaeth i ni o safle'r corff. Mae gan ein horganau mewnol dderbynyddion sy'n ein galluogi i ddynodi ein cyflwr mewnol e.e. pan fyddwn yn sychedig, llwglyd neu llawn, pan fyddwn angen mynd i'r tŷ bach, pan fyddwn wedi blino, yn teimlo'n sâl, neu deimlo'n boeth neu oer.  

Mae'r Wyth System Synhwyraidd yn cynnwys:

  • Gweledol (golau, tywyllwch, lliw, symudiad)
  • Clyw (sŵn, pitsh, uchder y sŵn)
  • Cyffyrddol (synhwyrau cyffwrdd) 
  • Arogleuol (arogl)
  • Blasu (blas)
  • Festibwlar (symudiad neu gydbwysedd)
  • Propriodderbynyddion (ein galluogi i adnabod safle ein corff mewn gofod, lleoliad ein coesau a'n breichiau a'n corff heb edrych)
  • Mewndderbynyddion (synhwyrau mewnol sy'n caniatáu i ni adnabod ein cyflwr mewnol e.e. pan fyddwn yn llwglyd, sychedig, angen mynd i'r tŷ bach

Modyliad Synhwyraidd

Modyliad Synhwyraidd yw gallu'r ymennydd i brosesu a chydbwyso gwybodaeth synhwyraidd sy'n dyfod i mewn yn effeithiol a chreu ymateb sy'n briodol i ddwyster y mewnbwn synhwyraidd a'r amgylchedd. Mae'r holl systemau synhwyraidd angen gweithio gyda'i gilydd er mwyn i'r prosesu synhwyraidd fod yn effeithiol. Mae Modyliad Synhwyraidd yn ein galluogi i benderfynu pa wybodaeth synhwyraidd sy'n bwysig cymryd sylw ohoni ac ymateb iddi, ac i hidlo'r wybodaeth nad yw'n bwysig allan. Mae'n cynorthwyo'r unigolyn i fod yn wyliadwrus a gallu dysgu a rheoli ymddygiad.

Anawsterau Prosesu Synhwyraidd

Anawsterau Prosesu Synhwyraidd a enwir hefyd yn Anhwylder Prosesu Synhwyraidd (SPD) yw'r term a ddefnyddir i ddisgrifio pan nad yw'r ymennydd yn gallu prosesu a chydbwyso'r wybodaeth synhwyraidd sy'n dyfod i mewn ac ymateb yn briodol h.y. efallai y bydd plentyn yn tan-ymateb i synnwyr, yn gor-ymateb i synnwyr, yn dymuno cael mewnbwn synhwyraidd, neu'n dangos cymysgedd o'r rhain.  

Mae plant sydd ag anawsterau prosesu synhwyraidd yn profi synhwyrau'n wahanol i bobl eraill. Gall plant sy'n gor-ymateb i synhwyrau penodol e.e. golau, cyffyrddiad, synau gael eu gorlethu’n hawdd gan y synhwyrau hyn. Efallai y byddant yn profi rhai teimladau fel rhai anghyfforddus neu boenus hyd yn oed. Bydd plant sy'n tan-ymateb i synhwyrau'n dymuno cael mewnbwn synhwyraidd e.e. efallai y bydd yn symud yn ôl ac ymlaen i gael mewnbwn festibwlar, neu'n cyffwrdd arwynebau amlwead neu garw am adborth cyffyrddol.

Gall anawsterau prosesu synhwyraidd effeithio pob rhan o fywyd y plentyn gan gynnwys eu trefn ddyddiol megis tasgau hunanofal, addysgu, a'u gallu i ymdopi â gwahanol amgylcheddau.  

Yn aml mae plant sydd ag Anhwylderau Niwroddatblygiadol megis ASD, ADHD yn cael profiad o anawsterau prosesu synhwyraidd. Efallai y bydd yr hyn maent yn sensitif iddo'n wahanol ac yn amrywio yn ei ddwyster. 

Dogfennau y gellir eu llawr lwytho:

Dolenni defnyddiol: