Adeiladau Clwyd,
Stryd Clwyd,
Y Rhyl
LL18 3LA
Gwasanaethau a ddarperir
Cefnogaeth wyneb yn wyneb, dros y ffôn a rhithwir. Gall unrhyw un alw heibio am goffi a sgwrs, bydd staff yn asesu'r unigolyn ac yn cynnig cefnogaeth emosiynol, yn cyfeirio os yw'n berthnasol, yn caniatáu mynediad at offer TG a ffonau os oes angen. Rydyn ni'n bwriadu dechrau hyrwyddo gweithgareddau dros yr wythnosau nesaf - Rhandiroedd, clwb darllen, cerdded. Rydym hefyd yn cynnig cefnogaeth i'n cleientiaid ddefnyddio apiau lles ar eu ffonau.
Rhif Ffôn Cyswllt
07776 160664
Diwrnodau/oriau agor
Cynigir cefnogaeth wyneb yn wyneb, dros y ffôn a rhithwir ddydd Gwener, ddydd Sadwrn, ddydd Sul a dydd Llun, 10yb - 7yh.
Gwefan
Lleoliadau amrywiol, cysylltwch â ni am fwy o wybodaeth
01352 872189 neu e-bost info@kim-inspire.org.uk
Rydym yn cynnig cymorth, gwybodaeth, a chyfeirio ar gyfer grwpiau neu weithgareddau cymunedol a gwirfoddoli dros y ffôn, ar-lein ac wyneb yn wyneb.
Mae’r swyddfa ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener 9am – 4.30pm
Cynhelir Hwb Cymunedol Prestatyn, ar ddydd Mercher a dydd Iau 10.00 am – 3pm, mewn lleoliadau amrywiol.
Mae ein gweithgareddau’n cynnwys – grŵp merched, cymorth i ddynion, gwirfoddoli, iechyd a lles, y celfyddydau, hanes lleol, diwylliant Cymru, coginio, DIY, ffotograffiaeth, cysylltiadau cymunedol.
Ffordd Llundain,
Corwen,
Sir Ddinbych, LL21 0DP
Pwrpas Partneriaeth Gymunedol De Sir Ddinbych, sydd wedi’i lleoli yng Nghanolfan Ni yng Nghorwen, yw hybu budd trigolion De Sir Ddinbych. Ein nod yw darparu cyfleusterau, gwasanaethau a gweithgareddau i aelodau’r gymuned, waeth beth yw eu hoed, er mwyn mynd i'r afael â materion yn ymwneud ag unigedd cymdeithasol, gwella mynediad at wasanaethau a chyfleoedd i wella iechyd a lles.
Mae gan Ganolfan Ni bolisi ‘drws agored’ ac rydym yn croesawu unrhyw un sydd am alw heibio am baned a sgwrs.
Gwasanaethau a gynigiwn
cymorth dros y ffôn, ar-lein ac wyneb yn wyneb, gwybodaeth, cyfeirio, grwpiau a gweithgareddau cymunedol, gwirfoddoli, grŵp merched, cymorth i ddynion, iechyd a lles, y celfyddydau, hanes lleol, diwylliant Cymru, coginio, DIY, ffotograffiaeth, cysylltiadau cymunedol.
01490 266004.
Mae ein drysau ar agor rhwng 9am a 4:30pm, gyda rhai grwpiau yn cyfarfod gyda'r nos.
Mae KIM yn Hwb Canolfan Ni ar ddydd Mawrth a dydd Iau 10.00am – 3pm.
01352 872189 neu ebostiwch info@kim-inspire.org.uk.