Neidio i'r prif gynnwy

Bwydydd sy'n gyfoethog mewn protein

Dylid cynnwys rhywfaint o fwydydd llawn protein megis ffa, ffacbys, wyau, cig neu ddewisiadau yn lle cig a chnau yn ddyddiol. Mae'r Canllaw Bwyta'n Dda yn argymell dau ddogn o gig neu bysgod bob dydd, neu 2-3 dogn o ddewisiadau llysieuol. Mae protein yn cynorthwyo â'r gwaith beunyddiol o atgyweirio ac adnewyddu celloedd y corff. Mae llawer o'r bwydydd hyn yn ffynonellau gwych o fwynau megis haearn, sy'n ofynnol i gynhyrchu celloedd coch y gwaed ac sy'n neilltuol o bwysig i blant yn eu harddegau sydd ar eu tyfiant ac i enethod pan fydd eu mislif yn dechrau. Mae ffa a ffacbys hefyd yn ffynonellau gwych o ffibr yn ogystal â phrotein. Mae pysgod olewog megis eogiaid a sardinau yn ffynonellau gwych o asidau brasterog omega-3 - ceisiwch gynnwys pysgod brasterog unwaith yr wythnos.

Cyngor Doeth

Cofiwch gynnwys cynhyrchion cig a physgod sydd heb eu prosesu i'r un graddau â phrydau megis bwydydd sydd wedi'u gorchuddio â briwsion, bacwn, ham, byrgyrs, pasteiod, selsig a chig tun. Nid yw'r rhain yn ddewisiadau mor iach oherwydd cyfanswm yr halen a'r braster a ychwanegir wrth eu cynhyrchu.

Mae fitamin C yn cynorthwyo i amsugno haearn sy'n deillio o blanhigion, felly mae cael diod neu fwyd sy'n cynnwys fitamin C gyda phryd sy'n llawn haearn yn syniad da, er enghraifft, gwydraid o sudd ffrwythau gyda phowlaid o rawnfwyd sydd wedi'i gyfnerthu â haearn.