Neidio i'r prif gynnwy

Dwi'n gwybod beth i'w wneud, ond alla i ddim cadw ato

Efallai eich bod eisoes wedi dechrau rhywbeth sy'n gweithio i chi. Un o'r problemau mawr sy'n ein rhwystro rhag glynu wrth ein cynlluniau yw nad ydym yn bwyta yn unig am ein bod yn llwglyd - mae rhesymau eraill dros fwyta hefyd. Mae'r diwydiant bwyd yn buddsoddi llawer iawn o arian ac arbenigedd i'n temtio i fwyta pan nad ydym eisiau bwyd. Nid eich bai chi yw nad ydych yn gallu gwrthsefyll y demtasiwn, ond mae bod yn ymwybodol o'r dylanwadau hyn yn gallu helpu.