Neidio i'r prif gynnwy

Susan

"Os nad oes dim yn newid, fydd dim newid," yw arwyddair Susan, 64. 

Roeddwn i eisiau colli pwysau oherwydd nad oeddwn i'n teimlo'n dda. Dywedodd y meddyg fod gen i'r cyflwr cyn-ddiabetes ac roeddwn i ar feddyginiaeth ar gyfer pwysedd gwaed uchel. Roeddwn i wedi cael trafferth colli pwysau ar ôl cael TIA ychydig o flynyddoedd yn ôl ac roeddwn i'n straffaglu wrth wisgo fy sanau achos bod fy mol yn y ffordd! Byddwn yn deffro bob bore ac yn dweud, “Rwyt ti wedi colli pob rheolaeth ac rwyt ti'n dal i fod yn dew.” Ond er gwaethaf fy holl ymdrechion, bob nos, byddwn wedi syrthio'n ôl i fy hen arferion. Roedd fy nillad yn dynn, roeddwn i'n edrych yn ofnadwy ac roedd bod dros bwysau yn fy oedran i, yn golygu bod COVID-19 yn fygythiad go iawn. Roedd rhaid i mi newid. Wrth i mi heneiddio, roedd gen i gyfrifoldeb i mi fy hun i gadw'n iach ac yn actif.

Clywais am Slimming World trwy ffurflen ar-lein. Efallai y byddwn i wedi ymuno â Slimming World ond ar y pryd, roeddwn i'n teimlo fy mod wedi ‘methu’ cymaint o weithiau. Yna, yn hollol annisgwyl, cefais fy nghyfeirio atynt gan y Bwrdd Iechyd. Roedd yn gyfle na fedrwn ei golli. Roedd Chrissie, fy ymgynghorydd, yn anhygoel, a dechreuais deimlo fod gen i reolaeth drosof fy hun unwaith eto.

Pan ymunais i â Slimming World am y tro cyntaf, roeddwn i'n teimlo, “O na, dyma ni eto.” Ond erbyn hyn, mae hynny wedi newid. Mae’n gweithio os byddwch chi'n newid eich agwedd.

Roedd bod dros bwysau yn effeithio ar fy iechyd, ond erbyn hyn, mae fy mhwysedd gwaed i wedi gostwng, ac mae siawns y bydda i'n gallu'r rhoi'r gorau i bob meddyginiaeth. Does gen i ddim y cyflwr cyn-ddiabetes bellach!  Mae gen i fwy o stamina, mae iechyd fy ysgyfaint, fy hunan-barch a fy hyder wedi gwella'n enfawr, a dydw i ddim yn chwyrnu!!!!

Fy arwyddair i yw “Os nad oes dim yn newid, fydd dim newid!” Dyma fi’n union! Roedd yn rhaid newid! Ac ers colli pwysau rydw i’n gwneud mwy ac mae fy ffitrwydd wedi gwella.

Rydw i wedi dringo i ben yr Wyddfa a rŵan mi fydda i’n cerdded yn aml.  Rwy'n nofio yn y môr (bron) bob dydd hyd yn oed yn y gaeaf, ac anaml y bydda i’n yfed alcohol.

Pan fydda i mewn stafell newid, fedra i ddim credu mai fi sy'n y drych! Dyna’r peth gorau! Ac mae pobl yn sylwi a rwy'n cael fy llongyfarch.

Yr hyn rydw i’n ei garu am Slimming World ydy fy mod i rŵan yn gydwybodol ynglŷn â’r hyn rydw i’n ei fwyta a’r effaith mae’n ei gael ar fy nghorff ac mae Chrissie, fy ymgynghorydd, bob amser yno i bawb.