Wrth i blant ddechrau yn yr ysgol mae eu byd yn ehangu ac maen nhw'n dechrau dod ychydig yn fwy annibynnol. Fodd bynnag, maent yn dal i droi at rieni, teulu ac oedolion eraill y gellir ymddiried ynddynt i greu’r amodau i’w llesiant ffynnu.
Mae angen help ar blant i brofi ystod o wahanol leoliadau cymdeithasol a datblygu perthnasoedd gyda phobl newydd. Mae chwarae'n parhau i fod yn bwysig iawn i'w dysgu ac fel ffordd o feithrin cyfeillgarwch a deall rheolau a ffiniau.
Yn yr oedran hwn, mae llawer o blant yn awyddus i helpu eraill ac archwilio eu byd. Maen nhw'n chwilfrydig ac eisiau dysgu a phrofi pethau newydd. Gallant wneud hyn trwy roi cynnig ar weithgareddau neu ddifyrrwch newydd, trwy ddefnyddio technoleg neu fod yn weithgar ym myd natur. Maent yn mwynhau dysgu am wneud dewisiadau iach, sut i ofalu amdanynt eu hunain a rheoli emosiynau.
Fel rhieni ac oedolion dibynadwy, mae gennych chi rôl bwysig i'w chwarae yn cefnogi eich plentyn i wneud y pethau hyn ac felly eu helpu i ffynnu.
Cliciwch isod i ddarganfod mwy. Cofiwch fod un gweithgaredd, fel chwarae gyda’ch plentyn, yn aml yn golygu eich bod wedi cyflawni llawer o’r pum ffordd at les trwy un gweithgaredd. Mae enghreifftiau o weithgareddau yn cynnwys:
Nid oes angen gwario arian wrth gadw at y Pum Ffordd at Les. Mae’n ymwneud yn fwy â bod yn bresennol yn yr eiliad (rhoi’r ffôn i’r ochr am ychydig funudau) a rhoi eich amser a’ch sylw i’ch plentyn. Rhywbeth mor syml â Chysylltu â'ch plentyn drwy gael cwtsh ar y soffa wrth wylio'r teledu gyda'ch gilydd. Neu efallai Bod yn Sylwgar o aderyn yn y goeden wrth i chi Fod yn Actif a cherdded i'r ysgol a Dal ati i Ddysgu gan eu bod yn rhannu ffaith ddiddorol gyda chi am yr aderyn. Rhowch o'ch amser a'ch sylw trwy chwarae gêm fwrdd neu bobi gyda'ch gilydd.