Diweddariadau ar ein cynlluniau brechu a chynnydd ar y brechiadau yng Ngogledd Cymru
Awst 14, 2026
Rydym wedi ysgrifennu at bawb yng Ngogledd Cymru sydd rhwng 65 a 74 oed sydd â risg uwch o salwch difrifol sydd wedi'i achosi gan RSV i'w gwahodd i gael brechlyn untro er mwyn amddiffyn rhag y feirws
Mae Feirws Syncytiol Anadlol (neu RSV) yn effeithio ar y frest a'r ysgyfaint, a gall achosi salwch difrifol iawn i bobl hŷn a phobl sydd â rhai cyflyrau iechyd.
Cafodd rhaglen frechu lwyddianus rhag RSV ei chyflwyno i bobl dros 75 oed yn 2004. Gwnaeth ymchwil a gyhoeddwyd yn gynharach eleni ddangos bod y brechlyn yn lleihau'r risg o fod angen triniaeth yn yr ysbyty o 75%.
Yn dilyn cyngor Llywodraeth Cymru, mae'r rhaglen frechu rhag RSV wedi cael ei hehangu erbyn hyn i gynnwys pobl 65 oed a hŷn sydd â system imiwnedd wannach neu un o nifer o gyflyrau iechyd sy'n yn effeithio ar eu brest a'u hysgyfaint.
Mae hyn yn cynnwys pobl sydd â system imiwnedd wannach oherwydd salwch neu driniaeth feddygol, a phobl sydd â chlefyd anadlol cronig - gan gynnwys asthma nad yw wedi cael ei reoli'n dda, clefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint, bronciectasis, ffeibrosis systig, ffeibrosis interstitaidd yr ysgyfaint, niwmoconiosis a dysplasia broncopwlmonaidd. Mae manylion llawn am gymhwystra ar gyfer pobl sydd â system imiwnedd wannach ar gael yma.
Bydd cleifion cymwys yn derbyn llythyr apwyntiad yn ystod mis Awst. Caiff apwyntiadau eu cynnig yn un o ganolfannau brechu cymunedol y bwrdd iechyd yn ystod mis Medi.
Rydym yn annog pawb sy'n gymwys i dderbyn y brechlyn i fynd i'w hapwyntiad, gan y bydd hyn yn gwarantu eu bod wedi'u hamddiffyn gymaint â phosibl cyn y gaeaf - pan fydd RSV yn cylchredeg yn eang.
Dylai cleifion nad ydynt yn gallu mynd i'w hapwyntiad ddilyn y cyfarwyddiadau ar eu llythyr er mwyn aildrefnu eu hapwyntiad. Bydd cleifion sy'n methu eu hapwyntiad, nad ydynt yn gallu mynd i apwyntiad yn ystod mis Medi, neu sy'n dod yn gymwys ar gyfer y brechlyn wrth iddynt gyrraedd 65 oed neu wrth dderbyn diagnosis newydd yn gallu trefnu brechiad RSV yn eu meddygfa o fis Hydref ymlaen.
Nid oes angen i'r brechlyn untro hwn gael ei ailadrodd bob blwyddyn.
Mae brechiadau RSV hefyd yn cael eu cynnig fel mater o drefn i ferched beichiog ar 28 wythnos, yn fras, er mwyn helpu i amddiffyn babanod newydd-anedig a babanod bach rhag RSV. Mae rhagor o wybodaeth am frechiadau RSV ar gael yma.
Mae'r wybodaeth ddiweddaraf am frechu rhag Meningitis B i bobl ifanc ar gael yma
Mae diweddariadau blaenorol wedi'u harchifo