Os ydych chi'n 25 oed neu'n iau, gallwch fanteisio ar gondomau'n rhad ac am ddim ledled Gogledd Cymru
Gall pobl ifanc fanteisio ar gondomau'n rhad ac am ddim mewn llawer o leoliadau ledled Gogledd Cymru. Efallai y byddwch chi'n gallu eu cael yn eich ysgol, canolfan ieuenctid, coleg neu brifysgol.
Condomau (a dulliau atal eraill) yw'r unig ddull atal cenhedlu sy'n amddiffyn rhag heintiau a drosglwyddir yn rhywiol ac sy'n atal beichiogrwydd dieisiau.
Gallan nhw fod yn bwysig iawn:
Mae condomau'n un o'r llawer o ddulliau atal cenhedlu gwahanol sydd ar gael yn rhad ac am ddim yng Nghymru, felly mae'n siŵr y bydd un yn addas i chi a'ch ffordd o fyw.
Gallwch chi fanteisio ar gondomau'n rhad ac am ddim mewn llawer o leoliadau ledled Gogledd Cymru. Ewch i wefan y Cerdyn-C er mwyn dod o hyd i fan casglu yn eich ardal chi, galwch heibio i gofrestru'n sydyn a cyfrinachol - mae mor syml â hynny!
Ar ôl i chi gofrestru, gallwch gasglu condomau'n rhad ac am ddim o unrhyw leoliad sy'n rhan o'r cynllun heb ffwdan na barnu.
Mae staff hyfforddedig ym mhob lleoliad hefyd yn gallu cynnig gwybodaeth am iechyd rhywiol, a chymorth gyda pherthnasoedd, atal cenhedlu ac iechyd rhywiol.
Gall myfyrwyr ym Mhrifysgol Bangor gasglu condomau'n rhad ac am ddim o Undeb Myfyrwyr Bangor yn Pontio.
Gall eich clinig iechyd rhywiol lleol ddarparu cymorth a chyngor manwl i gefnogi eich iechyd rhywiol a’ch lles.
Rydym yn cynnig cymorth gydag atal cenhedlu a chyngor ar gael rhyw yn ddiogel, archwiliadau, profion a thriniaeth am ddim ar gyfer cyflyrau iechyd rhywiol cyffredin, gofal HIV, a meddyginiaethau i helpu i atal heintiau a drosglwyddir yn rhywiol a HIV (gan gynnwys PrEP a PEP).
Gallwn siarad â chi am eich beichiogrwydd, a'ch cefnogi gyda dewisiadau beichiogrwydd. Mae cymorth a gwasanaethau arbenigol hefyd ar gael i bobl sydd wedi dioddef ymosodiad rhywiol.
SEXtember yw ymgyrch flynyddol iechyd rhywiol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, sy’n hyrwyddo ymwybyddiaeth ynghylch materion iechyd rhywiol yn ystod mis Medi.
Nod yr ymgyrch yw:
Mae ein hymgyrch wedi'i ddylunio i godi ymwybyddiaeth am wasanaethau iechyd rhyw yng Ngogledd Cymru. Os ydych yn byw yn rhywle arall yng Nghymru, gallwch gael gwybodaeth am wasanaethau sy'n agos at le’r ydych yn byw ar GIG 111 Cymru.
Os hoffech wybodaeth bellach am ymgyrch SEXtember, cysylltwch â Dr Ushan Andrady, Arweinydd yr Ymgyrch, Ymgynghorydd Iechyd Rhywiol/HIV yn BCU.SextemberCampaign@wales.nhs.uk.