Neidio i'r prif gynnwy

Y Prif Weithredwr newydd yn ail-lofnodi Cyfamod y Lluoedd Arfog gan gadarnhau ymrwymiad y Bwrdd Iechyd

Atgyfnerthodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ei addewid i gefnogi cymuned y Lluoedd Arfog trwy ail-lofnodi Cyfamod y Lluoedd Arfog (AFC). 

Llofnodwyd y cyfamod gan Carol Shillabeer, Prif Weithredwr y Bwrdd Iechyd a Swyddog Awyr Cymru, y Comodor Awyr Adrian Williams, i ddangos y bwriad parhaus i sicrhau nad yw cymuned y Lluoedd Arfog dan anfantais o ran y gofal y maent yn ei dderbyn, a’u bod lle bo modd, yn derbyn gofal wedi'i bersonoli sy’n gwella canlyniadau i gleifion. Mae hyn yn cynnwys personél sy’n gwasanaethu’n rheolaidd a'r rhai wrth gefn, cyn-filwyr a’u teuluoedd. 

Ers 2022, mae'r Bwrdd Iechyd wedi sefydlu amryw o raglenni a mentrau i wella’r gefnogaeth i gymuned y Lluoedd Arfog gan gynnwys Cydweithrediaeth Gofal Iechyd Cyn-filwyr Gogledd Cymru (NWVHC), a chael ail-achrediad gan y Cynllun Cydnabod Cyflogwyr Amddiffyn (ERS), gan dderbyn aur am yr eildro am y gefnogaeth i gymunedau Lluoedd Arfog ddoe a heddiw. 

Dywedodd Carol yn ystod y seremoni i ddathlu’r llofnodi: “Rydw i wedi dysgu llawer am y gwaith rydym ni wedi bod yn ei wneud fel bwrdd iechyd i gefnogi cymuned y Lluoedd Arfog, ac rydw i wedi gweld gwir ymrwymiad.    

“Rwy'n wraig i gyn-filwr, ac mae hefyd yn wych gweld cymuned y Lluoedd Arfog yn rhan o’n timau arwain, gan gynnwys y Cyfarwyddwr Meddygol Gweithredol Nick Lyons, Cyn-filwr o’r Llu Awyr Brenhinol, a’r Cyfarwyddwr Gweithrediadau (Ardal y Dwyrain), Ian Donnelly, Cyn-filwr o'r Fyddin (Magnelwyr Brenhinol). Mae gennym ni bobl â phrofiad ar bob lefel yn ein sefydliad, ac mae hynny'n ychwanegu at wead y gymuned yma, yn y Bwrdd Iechyd.  

“Mae'r Bwrdd Iechyd yn croesawu pobl o’r lluoedd arfog. Mae’n weithle y gall eu gyrfa ffynnu ynddo, ac yn cynnig cymorth fel darparwr gwasanaeth iechyd craidd. Felly, mae'n bleser llofnodi'r cyfamod hwn heddiw. ” 

Ynghyd ag uwch arweinwyr BIPBC, mynychodd Sarjiant Norma Filmer, Ysbyty Maes 203, Tony Fish, Cyfarwyddwr Rhanbarthol Ymgysylltu â Chyflogwyr (Gogledd), Cymdeithas Lluoedd Wrth Gefn a Chadetiaid Cymru, Mark Birkill Arweinydd Tîm Cyn-filwyr GIG Cymru, Kate Jackson Arweinydd Clinigol Cyn-filwyr Ysbyty Glan Clwyd, Ian Pritchard Swyddog Cyswllt y Lluoedd Arfog, a Zoe Roberts, Arweinydd Lluoedd Arfog BIPBC. 

Dywedodd Adrian a oedd hefyd yn siarad yn y seremoni: “Mae'n wych gweld pobl yma o wahanol luoedd heddiw. Mae'n wir ein bod ni i gyd yn sefyll gyda'n gilydd.  Wrth i ni ail-lofnodi’r cyfamod a mynd trwy rai o’r ymrwymiadau y tu ôl i’r cyfamod gallwn weld ei fod yn bwysig iawn i’n cymunedau sy’n gwasanaethu a'n cyn-filwyr ledled Gogledd Cymru.   

“Mae’r hyn rydym ni wedi’i lofnodi heddiw ac wedi’i addo yn bwysig iawn i’r gymuned hon ac rydym ni’n ddiolchgar am yr hyn sydd eisoes wedi’i wneud. Rydym ni’n edrych ymlaen at barhau i weithio mewn partneriaeth ac rydym ni’n gwybod eich bod chi’n rhannu’r hyn sy’n gweithio’n dda yma, gyda Byrddau Iechyd eraill.” 

Cliciwch yma am ragor o wybodaeth ynglŷn a gwaith y Bwrdd Iechyd i gefnogi’r Lluoedd Arfog.