Neidio i'r prif gynnwy

Seren Betsi Star Stephanie

19.08.22

Mae Meddyg Iau sydd wedi rhoi o'i hamser i helpu plant ysgol yng Ngogledd Cymru i ddechrau eu hastudiaethau meddygol wedi cael ei chydnabod gyda gwobr arbennig. 

Mae Stephanie Rees, cymrawd clinigol yn yr Uned Gofal Dwys yn Ysbyty Glan Clwyd, wedi derbyn gwobr Seren Betsi am ei gwaith ar gynllun Ehangu Mynediad i Feddygaeth. Caiff y cynllun hwn ei gynnal ar y cyd â Rhwydwaith 'Seren' Llywodraeth Cymru, a'i fwriad yw helpu plant ysgolion gwladol yng Ngogledd Cymru i wireddu ei botensial llawn, gan roi o'i hamser ei hun ar gyfer y rhaglen bob nos Fercher yn ystod tymor yr ysgol, am y tair blynedd diwethaf.

Caiff gwobr Seren Betsi ei rhoi mewn amgylchiadau eithriadol i staff y GIG yng Ngogledd Cymru, ac mae'n cydnabod aelod o staff, tîm neu wirfoddolwr sydd wedi mynd allan o'u ffordd i gyflawni pwrpas Betsi Cadwaladr, sef 'Gwella Iechyd a Chynnig Gofal Ardderchog.'

Gwnaeth Dr John Glen, Anesthetydd Ymgynghorol, gyflwyno'r wobr yn ystod sesiwn yn y theatr ddarlithio lle’r oedd Stephanie, nad oedd yn gwybod dim am y syrpréis a oedd i ddod, yn cymryd rhan mewn sesiwn gyda'i chydweithwyr.  

Nyrs o Dywyn mewn cystadleuaeth am wobr gymunedol arbennig - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (gig.cymru)

Mae'r cynllun yn rhoi cymorth i wyth grŵp o ddisgyblion ysgol Blwyddyn 12 a 20 o fyfyrwyr Blwyddyn 13 sy'n derbyn ymarferion cyfweld un i un.

Gan siarad ar ôl derbyn ei gwobr, dywedodd Stephanie: "Syndod llwyr oedd ennill y wobr. Mae cymorth fel hyn yn bwysig iawn i ddarpar fyfyrwyr meddygol yng Ngogledd Cymru.

"Deuthum o amgylchedd lle nad oedd fy rhieni na'm naid a thaid wedi mynd i'r brifysgol, ac felly nid oeddwn i wir yn gwybod sut i wneud cais i ysgol feddygol.

"Mae nifer y meddygon yng Ngogledd Cymru yn is na'r nifer yn y de, felly mae cynlluniau fel y rhain yn hynod bwysig o ran cael y gorau gan ein pobl ifanc ac i sicrhau eu bod yn parhau i weithio yn yr ardal hon a dyna'n union yr ydym yn awyddus i'w weld."

Dywedodd Dr Glen: "Mae'r cynllun wedi bod yn llwyddiant ysgubol. Mae pob myfyriwr sydd wedi cwblhau'r rhaglen wedi derbyn cynnig i astudio meddygaeth yn y brifysgol. Mae hynny'n gamp anhygoel.

Uned adsefydlu stroc newydd yn agor i gleifion Ysbyty Eryri yng Nghaernarfon - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (gig.cymru)

"Yn 2021, gwnaeth Llywodraeth Cymru gydnabod gwerth y rhaglen trwy ymrwymo i gael gweinyddwr llawn amser o 2022 - gan felly gydnabod bod Stephanie wedi bod yn gwneud swydd lawn amser yn ogystal â bod yn Feddyg Iau.

"Y llynedd, gwnaeth Stephanie addasu'r ffordd o gyflwyno'r cynllun oherwydd y cyfyngiadau a osodwyd o ran cyfarfodydd wyneb yn wyneb. Symudodd y maes llafur cyfan i Microsoft Teams, sef platfform cynadledda fideo ar-lein. 

"Mae hwn wedi bod yn ddarn enfawr o waith, mae cynnig y rhaglen ar Teams wedi golygu cyfryngu wyth gyfarfod ar yr un pryd bob wythnos, yn creu'r cynnwys ar gyfer pob wythnos (gwaith grŵp bach, darlithoedd, cwisiau) a marcio aseiniadau traethawd. Mae Stephanie wedi arwain a chwblhau gwaith ac wedi cefnogi eraill yn gyson."

Mae effaith bositif ymdrechion Stephanie ar bobl ifanc sydd â'r uchelgais i gael gyrfa feddygol neu ddeintyddol wedi cael ei chydnabod gan Lywodraeth Cymru.  Mae'r cynllun wedi cael ei ehangu i Ysbyty Gwynedd ac Ysbyty Maelor Wrecsam, lle mae Stephanie wedi hyfforddi staff yno i drefnu a chynnal eu rhaglenni eu hunain gan ddefnyddio'r deunyddiau a'r dulliau a ddyfeisiodd.

Ychwanegodd Dr Glen: "Mae gweld yr hyn y mae Stephanie wedi'i gyflawni mor gynnar yn ei gyrfa o ran datblygu'r rhaglen yn rhyfeddol ac mae hi'n haeddu cael y gydnabyddiaeth hon am y gwaith pwysig hwn.  Bydd y gwaith hwn yn dwyn ffrwyth yn y pen draw wrth i ni weld talent leol yn dechrau mewn swyddi meddygol yng Ngogledd Cymru, gan ddiogelu dyfodol gofal iechyd yn y rhanbarth."