Neidio i'r prif gynnwy

Prosiect arloesol Hepatitis C helpu rhagor o bobl sy'n agored i niwed i gael eu profi a'u trin

28.07.22

Caiff prosiect allgymorth arobryn sydd wedi helpu dwsinau o'r bobl sydd fwyaf agored i niwed yng Ngogledd Cymru i gael eu trin ar gyfer Hepatitis C ei gyflwyno ym Mangor yn ddiweddarach eleni.

Dywed y tîm sy’n gyfrifol am raglen Profi a Thrin yn Gyflym y Bwrdd Iechyd bod eu hagwedd eisoes wedi helpu cymunedau ar y cyrion yn Wrecsam a Rhyl i gael mynediad cyflymach at feddyginiaethau a allai achub bywyd.

Mae eu hagwedd newydd arloesol tuag – y gyntaf o'i bath yng Nghymru – wedi gwneud profi yn haws ac yn gyflymach i'r digartref a phobl ddi-freintiedig eraill.

Mae bron 100 o bobl wedi eu trin yn llwyddiannus ers lansiad y prosiect yn 2019.

Mae Akwasi Mintah, fferyllydd sy’n arbenigo mewn Gastroenteroleg a HIV gyda Betsi Cadwaladr, yn rhan o'r tîm yn cyflwyno'r rhaglen. Dywedodd: "Mae Hepatitis C yn effeithio ar rai rhannau o'r gymuned yn anghymesur, megis y digartref a defnyddwyr cyffuriau mewnwythiennol. Gallant ei chael hi'n anodd cwblhau neu hyd yn oed gael mynediad at driniaeth, ac mae'r stigma cysylltiedig yn annog cleifion i beidio â cheisio gofal.

'Mae prosiect Profi a Thrin yn Gyflym wedi helpu i roi gwell gofal i'r cleifion hyn a gwella iechyd mewn cymunedau lleol.

“Cyn belled, mae mwy na 90 claf wedi cael eu trin a'u rhyddhau. Roedd dros 50% o'r cleifion rheiny â diagnosis hirsefydlog, ac nid oeddent wedi gallu cael eu trin trwy'r llwybrau arferol". Mae pobl sydd wedi cael eu trin gan y prosiect wedi dweud sut y mae wedi eu helpu nhw i guro'r stigma, adennill mynediad at eu plant ac i ail-afael â byd gwaith.

Mae Hepatitis C  yn firws a gaiff ei gludo yn y gwaed sy'n effeithio ar yr iau. O’i adael heb ei drin, gall y cyflwr difrifol hwn ac sydd yn aml heb ei ganfod arwain at sirosis, methiant yr iau a chanser yr iau.

Cynigir Profi a Thrin yn Gyflym yn uniongyrchol i bobl ddi-gartref a grwpiau eraill sy’n agored i niwed yn y gymuned, ynghyd â chyngor a chefnogaeth ar gyfer cyflyrau iechyd meddwl cyffredin, camddefnyddio sylweddau, a materion ynghylch tai a budd-daliadau. Dilynir profion pwynt gofal gan fynediad at feddyginiaethau, ynghyd â chefnogaeth gorfforol a seicolegol, ymhen tua dwy wythnos.

Disgwylir i hyn wneud arbedion sylweddol, gyda chostau darparu triniaeth gynnar ar gyfer Hepatitis C yn sylweddol îs na thrin cymhlethdodau hirdymor.

Llynedd enwyd Profi ac Olrhain yn Gyflym fel enillydd categori Gwella Deilliannau Iechyd Cyhoeddus yng Ngwobrau Gwella Gofal Iechyd Cymru.

Trosglwyddir Hepatitis C  trwy gyswllt â gwaed wedi ei heintio, yn fwyaf cyffredin trwy rannu nodwyddau ac offer chwistrellu arall. Gall hefyd gael ei drosglwyddo trwy sterileiddio offer meddygol yn annigonol, anaf nodwydd, a chysylltiad â gwaed sydd wedi ei heintio trwy ddulliau eraill (er enghraifft rhannu rasel ag unigolyn sydd wedi ei heintio). Dulliau llai cyffredin yw trwy drosglwyddiad rhywiol a fertigol (o fam i faban).