Neidio i'r prif gynnwy

Penodi Dyfed Edwards fel Cadeirydd y Bwrdd Iechyd

Mae Dyfed Edwards wedi cael ei benodi fel Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Cafodd Dyfed, sydd wedi bod yn ei swydd fel Cadeirydd dros dro ers Chwefror 2023, ei benodi’n ffurfiol i’r swydd gan y Gweinidog Iechyd ddydd Mawrth, 30 Ionawr 2024. 

Yn dilyn y cyhoeddiad, dywedodd Dyfed: Mae’n anrhydedd cael y cyfle hwn a byddaf yn parhau i roi popeth i’r swydd ac i wasanaethu’r Bwrdd Iechyd a phobl Gogledd Cymru.

“Mae iechyd, a’r system iechyd a gofal yn cyffwrdd â phob un o’n bywydau ar adegau gwahanol ac mae’n rhan allweddol o’r ffabrig cymdeithasol sy’n cynnal ein cymunedau yng Ngogledd Cymru. Rydym yn gwybod bod y Bwrdd Iechyd wedi bod yn tanberfformio ac yn methu o ran cyflwyno gwasanaethau cyhoeddus o’r radd flaenaf i’n cymunedau ond dros y flwyddyn ddiwethaf, rydw i wedi cyfarfod â llawer o staff anhygoel ac wedi gweld rhai gwasanaethau gwych. Rydw i’n teimlo’n freintiedig o gael ymuno â’r tîm cryf o 19,000 o staff yn Betsi ac rydw i’n gwybod eu bod yn rhannu fy uchelgais i ac uchelgais y Bwrdd i wneud gwelliannau parhaus i iechyd a lles poblogaeth Gogledd Cymru ac o ran darparu eu gwasanaethau gofal iechyd.

“Rydym yn dechrau gweld cynnydd da ac rydw i’n edrych ymlaen at barhau â’r daith i greu sefydliad mwy effeithiol.”

Bydd Dyfed, sydd â phrofiad arwain sylweddol yn y sector cyhoeddus, gan gynnwys y GIG, yn cyflawni rôl Cadeirydd am gyfnod o bedair blynedd.