Neidio i'r prif gynnwy

Neges dim goddefgarwch o ran cam-drin staff gan y Cyfarwyddwr Gofal Sylfaenol

14/03/2023

Dywedodd Karen Higgins, Cyfarwyddwr Gofal Sylfaenol: “Rydym yn gweld cynnydd yn nifer yr achosion o ymosodedd geiriol tuag at ein staff ar draws ein gwasanaethau gofal sylfaenol, dros y ffôn ac wyneb yn wyneb.

“Rydym yn cydnabod bod meddygfeydd yn dal i fod dan bwysau ac rydym yn deall bod cleifion yn teimlo'n rhwystredig ar adegau. Ond rydym yn gofyn i chi barchu ein staff, sy’n gwneud eu gorau glas i’ch helpu chi mewn amgylchiadau sy'n aml yn anodd.

“Mae gan y GIG bolisi dim goddefgarwch o ran cam-drin a thrais yn erbyn ei staff. Os yw unigolyn yn ymddwyn yn dreisgar, yn ymosodol neu’n fygythiol tuag at unrhyw aelod o staff, mae’n bosibl y caiff ei dynnu’n barhaol oddi ar restr y feddygfa. Mae hyn hefyd yn cynnwys sylwadau a bygythiadau a roddir ar y cyfryngau cymdeithasol. Byddwn yn cysylltu â'r heddlu mewn achosion difrifol.

“Mae yna lawer o wahanol weithwyr gofal iechyd proffesiynol yn gweithio yn ein meddygfeydd sy’n gallu cynnig cymorth priodol, ac rydym yn annog cleifion sy’n cael cynnig yr apwyntiadau hyn i’w mynychu.

“Rydym wedi hyfforddi ein derbynyddion i lywio gofal ac i gyfeirio cleifion yn briodol at wasanaethau dydd fel gofal sylfaenol brys, fferyllfeydd cymunedol ac unedau mân anafiadau. Mae hyn yn rhoi mwy o amser i staff gefnogi cleifion sydd â phryderon mwy cymhleth neu hirdymor, ac yn lleihau'r pwysau ar wasanaethau ysbytai.

“Mae ein staff yma i'ch helpu chi. Fodd bynnag, os ydych chi’n meddwl eich bod wedi cael eich trin yn annheg neu'n amhriodol, byddwn yn hapus i fynd i'r afael â'ch pryderon chi.

“Rydym ni’n cydnabod nad yw’r neges hon yn berthnasol i fwyafrif yr unigolion sy’n defnyddio ein gwasanaethau ac rydym yn gwerthfawrogi’r rhai hynny sy’n garedig ac ym amyneddgar, diolch yn fawr iawn i chi.”

Cysylltu â'r Gwasanaeth Cyngor a Chyswllt i Gleifion (PALS).