Neidio i'r prif gynnwy

Gwirfoddolwyr yn helpu bywiogi Canolfan Iechyd Plant Ysbyty Maelor Wrecsam

10/03/2022

Daeth plant, pobl ifanc a gwirfoddolwyr eraill at ei gilydd i greu gwaith celf newydd i fywiogi ystafelloedd clinig iechyd plant yn Ysbyty Maelor Wrecsam.

Cynhaliwyd y diwrnod a drefnwyd ar y cyd gan Wasanaeth Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (CAMHS) a Senedd yr Ifanc, Cyngor Sir Wrecsam, yng Nghanolfan Iechyd Plant Wrecsam.

Rhoddwyd gwaith celf y gwirfoddolwyr i’w hongian ar y waliau nodwedd sydd hefyd newydd eu peintio, yn ystafelloedd clinig y Ganolfan Iechyd Plant.

Senedd Ieuenctid Wrecsam yw Senedd yr Ifanc. Mae’n cynnwys pobl ifanc rhwng 11 a 25 mlwydd oed sy’n gweithio ar nifer o faterion sydd o bwys i bobl ifanc Wrecsam.

Mae’r digwyddiad yn rhan o ystod eang o weithgareddau sy’n cael eu cynnal yn dilyn adborth gan bobl ifanc. Crëwyd grŵp ffocws er mwyn gwrando ar farn pobl ifanc am amgylchedd CAMHS a’r hyn y bydden nhw’n ei awgrymu i wella’r gwasanaeth i blant a phobl ifanc sy’n mynychu apwyntiadau.

Cyrhaeddodd yr arolwg a drefnwyd gan Senedd yr Ifanc, 947 o blant a phobl ifanc 10-25 mlwydd oed a oedd yn byw, gweithio, cymdeithasu neu’n cael eu haddysgu yn Wrecsam.

Yn dilyn cyhoeddi adroddiad ym mis Ebrill 2021, mae CAMHS a Senedd yr Ifanc wedi cymryd nifer o gamau, gan gynnwys gwneud gwelliannau i’r wefan, ystafelloedd y clinig, yr ardaloedd awyr agored a’r wybodaeth a’r adnoddau sydd ar gael i blant a phobl ifanc.

Dywedodd Wendy Pinder, Pennaeth Nyrsio i Blant a Phobl Ifanc, Gwasanaethau Niwroddatblygiadol ac Anableddau Dysgu :Dwyrain CAMHS: “Mae wedi bod yn bleser treulio’r dydd yn gwirfoddoli gyda sefydliadau eraill yn ogystal â’r plant a’r bobl ifanc sy’n defnyddio ein gwasanaethau, er mwyn creu gwaith celf i wella ac ychwanegu ychydig o liw i’r clinigau. Roedd yn brofiad mor bositif i bawb a fu’n cymryd rhan ac rwy’n edrych ymlaen at barhau i gynnal digwyddiadau tebyg yn y dyfodol.”

“Yn dilyn yr adborth a gawson ni o adroddiad 2021, rydyn ni wedi datblygu cynllun gweithredu a byddwn yn parhau i roi’r argymhellion ar waith.”

Mae CAMHS yn cefnogi teuluoedd a’u plant o’u genedigaeth hyd at 18 mlwydd oed ac yn canolbwyntio ar gynnig help i blant a phobl ifanc sy’n profi anawsterau emosiynol, ymddygiad neu seicolegol. Caiff ei staffio gan dimau amlddisgyblaethol sy’n cynnwys Ymarferwyr CAMHS, Nyrsys, Seiciatryddion Plant, Seicolegwyr Clinigol a gweithwyr proffesiynol eraill sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc.

Dywedodd Caroline Bennet, Cydlynydd Cyfranogiad Senedd yr Ifanc, “Roedd yn sesiwn hyfryd ac roedd hi’n wych gweld creadigrwydd y bobl ifanc wrth iddyn nhw lunio dau ddarn o gelf anhygoel. Mae’n galonogol gweld canlyniadau ymgynghoriad Senedd yr Ifanc a llais pobl ifanc Wrecsam yn dechrau cymryd siâp. Diolch yn fawr i’r holl staff a’r bobl ifanc a fu’n cymryd rhan. Rwy’n edrych ymlaen at y diwrnod gwirfoddoli nesaf.”