Neidio i'r prif gynnwy

Datrysiad peirianwyr meddygon arloesol i gleifion Covid yn ystod y pandemig

Gwobr Trawsnewid ac Arloesi

Dr Dan Menzies, Dr John Glen, Berwyn Thomas a Geraint Williams (EBDM)

Gwnaeth John, Dan, Berwyn a Geraint ddyfeisio datrysiad arloesol, gan ddefnyddio peiriant CPAP a ddefnyddir fel arfer ar gyfer cleifion apnoea cwsg, er mwyn rhoi cymorth anadlol i gleifion â Covid difrifol yn ystod y pandemig.

Roedd tystiolaeth yn cynyddu nad oedd cymorth anadlu mewnwthiol bob amser yn fuddiol i gleifion â Covid difrifol ac yn ogystal, roedd diffyg staff wedi'u hyfforddi, offer a lle yn broblem.

Gwnaethant addasu'r gadarnwedd fel y gallai peiriannau roi'r therapi dymunol ar adeg eu troi ymlaen a gwnaethant ei haddasu fel y gellid cyflwyno'r ocsigen i'r ddyfais a'i roi i'r claf. Yna, roedd yn rhaid iddynt greu falf bwrpasol yn eu gweithdai gan nad oedd falfiau ar gael yn genedlaethol.

Ar ôl cynnal cyfres o arbrofion gan ddefnyddio mesuryddion llif, gwnaethant berffeithio'r ddyfais a chafodd 200 eu haddasu a'u pecynnau i'w defnyddio yn ystod y pandemig.

Cafodd fideo ei recordio i esbonio sut i osod y cyfan a sut i roi therapi i glaf gan ddefnyddio'r peiriant. Cafodd ei ddefnyddio'n ddiweddarach fel arweiniad Cymru gyfan a chafodd dwsinau o nyrsys eu hyfforddi mewn sut i ddefnyddio'r ddyfais newydd.

Dywedodd Dafydd Bebb, Ysgrifennydd Bwrdd Addysg a Gwella Iechyd Cymru, sy'n noddi'r wobr: "Rydym yn falch o gefnogi'r gwobrau hyn i gydnabod y gwaith gwych y mae ein cydweithwyr yng Ngogledd Cymru yn ei wneud.

Ci therapi a'i berchennog yn ennill Gwobr i Wirfoddolwyr am gysuro cleifion - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (gig.cymru)

"Mae heriau gofal iechyd modern yn golygu bod yn rhaid i ni fod yn feiddgar ac yn arloesol o ran popeth rydym yn ei wneud - o addysg a hyfforddiant hyd at ddarpariaeth gwasanaeth a rolau swyddi - er mwyn diwallu anghenion ein cleifion a'n cymunedau yn y ffordd orau bosibl. Da iawn i bawb a gyrhaeddodd y rhestr fer yn y categori Arloesi.

"Mae gwaith y tîm hwn yn enghraifft ragorol o fod yn feiddgar, yn arloesol a sut gallwn addasu i oresgyn yr heriau yr ydym yn eu hwynebu. Ar ran AaGIC, hoffwn longyfarch pob un ohonynt."