Neidio i'r prif gynnwy

Ci therapi a'i berchennog yn ennill Gwobr i Wirfoddolwyr am gysuro cleifion

25/10/2022

Mae gwirfoddolwr a'i gi therapi wedi ennill gwobr am ei ymroddiad i gefnogi staff a chleifion. 

Mae Andy Williams, a'i gi Buddi, sy'n Lhasa Apso, wedi bod yn gwirfoddoli yn Ysbyty Maelor Wrecsam ers llawer o flynyddoedd gan gynnig cysur a chymorth i gleifion ar draws yr ysbyty gan gynnwys y rhai ar Ward y Plant a'r Uned Gofal Critigol. 

Cafodd Andy ei gyhoeddi fel enillydd Gwobr Tîm Ymateb ac Adferiad COVID-19 yn noson Gwobrau Staff 2022 Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr nos Wener, 21 Hydref. 

Dywedodd Beverley Williams, Dirprwy Reolwr Ward Bromfield yn Ysbyty Maelor Wrecsam: "Cyn y pandemig, gwnaethant ymweld ag Ysbyty Maelor Wrecsam a Hosbis Tŷ'r Eos bob wythnos. Maent yn rhoi cymorth i blant sy'n derbyn triniaeth, ac mae Buddi wedi eistedd gyda chleifion sydd â salwch angheuol a'u perthnasau. 

"Mae'r ddau yn mynd y filltir ychwanegol, ac mae Andy yn ddiffoddwr tân llawn amser hefyd, rydym ni'n ddiolchgar iawn am ei ymroddiad a'r cymorth maen nhw'n ei roi i'r staff a chleifion. 

"Mae Buddi wedi eistedd gyda chleifion pan oeddent yng nghamau olaf eu bywyd, mae wedi bod gyda chleifion mewn gofal critigol pan maen nhw wedi bod ar beiriant anadlu ac mae wedi eistedd gyda nifer o blant sydd wedi bod ag ofn nodwyddau, pan oedd angen gwaed neu bigiadau." 

Cafodd Buddi chwe mis o hyfforddiant cyn ei ymweliadau ag Ysbyty Maelor Wrecsam i helpu cleifion i ymlacio ac i beidio cynhyrfu yn ystod eu harhosiad. 

Yn ystod y pandemig, bu Buddi ar 'ffwr-lo', ond gyda chymorth Andy, cymerodd ran mewn galwadau Zoom gyda Ward y Plant. Mae'r ddau hefyd yn gwirfoddoli yn Hosbis Tŷ'r Eos, ac i Feiciau Gwaed Cymru, sef elusen sy'n darparu gwasanaeth cludo'n rhad ac am ddim ar gyfer y GIG, gan gludo samplau gwaed ac eitemau eraill. 

Dywedodd Mark Lewis, Cyfarwyddwr y Prosiect ar gyfer noddwr y wobr, Gleeds: "Mae cannoedd o wirfoddolwyr sydd wedi gwneud gwahaniaeth positif i brofiad cleifion o wasanaethau'r GIG ar draws Gogledd Cymru bob blwyddyn, a phleser o'r mwyaf i ni oedd gallu helpu i gydnabod eu hymdrechion heno. 

"Nid oes amheuaeth bod gan y staff a'r cleifion maent yn eu cefnogi feddwl mawr o Andy a Buddi. Llongyfarchiadau i'r ddau ar ennill y wobr hon." 

Dywedodd Jeremy Nash, Prif Swyddog Gweithredol Centerprise International, prif noddwr y gwobrau: “Roeddwn yn hynod falch o glywed y straeon rhagorol am garedigrwydd, gofal, trugaredd a dewrder yn wyneb caledi a ddangoswyd gan y rhai a oedd wedi cyrraedd y rownd derfynol yng ngwobrau BIPBC.

“Hon yw’r bedwaredd flwyddyn i Centerprise International noddi’r gwobrau hyn, a blwyddyn ar ôl blwyddyn, rydym yn parhau i gael ein syfrdanu i ba raddau y bydd staff y GIG yng Ngogledd Cymru yn mynd allan o’u ffordd i roi cymorth i gleifion yn yr ardal ac i’w cydweithwyr.

“Llongyfarchiadau, nid yn unig i’r enillwyr heno, ond i bawb a gyrhaeddodd y rhestr fer ar gyfer gwobrau eleni.”