Neidio i'r prif gynnwy

Cyrraedd carreg filltir o 100 o lawdriniaethau robotig yng Nghymru

27 Ebrill 2023

Mae timau llawfeddygol ym Mangor a Chaerdydd yn dathlu carreg filltir enfawr ar ôl cwblhau eu canfed llawdriniaeth robotig yn ddiweddar.

Cafodd y Rhaglen Genedlaethol Llawdriniaethau â Chymorth Robot ei chyflwyno gan Lywodraeth Cymru er mwyn gwella canlyniadau i gleifion canser drwy gynyddu nifer y cleifion ar draws Cymru sydd â mynediad at lawdriniaeth lai mewnwthiol a llai ymyrrol (MAS). Mae MAS yn cynnig buddion amlwg i gleifion, o gymharu â llawdriniaeth agored, gan gynnwys llai o boen, creithio ac amser adfer.

Tros y flwyddyn ddiwethaf, mae Versius CMR Surgical wedi cael ei ddefnyddio i drin cleifion sydd â chanser y colon a’r rhefr a chanser gynaecolegol yn Ysbyty Gwynedd ym Mangor ac Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd.

Ar ôl cael diagnosis o ganser y rhefr, Raymod Leyshon, 62, oedd y canfed unigolyn i dderbyn llawdriniaeth y colon a’r rhefr yng Nghymru gan ddefnyddio’r robot Versius.

Gan siarad am ei brofiad o’r llawdriniaeth yn Ysbyty Athrofaol Cymru, dywedodd: "Rwy'n rhyfeddu at fy mhrofiad o gael llawdriniaeth twll clo ar gyfer echdoriad blaen. I mi, roedd llawdriniaeth twll clo yn llawer mwy dymunol na llawdriniaeth normal, gan fy mod yn anghyfforddus gyda’r syniad o gyfnod adferiad hir a chael fy ngadael gyda chraith fawr ar fy abdomen.

“Mae’r llawdriniaeth roboteg wedi bod yn newid byd i mi, gan ei fod wedi galluogi i mi fynd adref at fy nheulu dim ond pedwar diwrnod ar ôl fy llawdriniaeth, ac ar wahân i fag stumog, nid oes gen i fawr o graith ac rwyf bellach mewn sefyllfa i symud ymlaen gyda’r cam nesaf ar fy nhaith adferiad.

“Mae’r tîm cyfan yn yr ysbyty wedi bod yn wych, o’r timau arbenigol i’r meddygon ymgynghorol a’r radiograffwyr, mae pawb wedi bod yn anhygoel, a byddaf wir yn tynnu sylw at y datblygiadau arloesol a wnaed mewn llawdriniaeth roboteg a’r hyn y mae wedi ei olygu i mi a'm hadferiad."

Yn ddiweddar, cafodd Joan Roberts, 79, o Bwllheli, lawdriniaeth robotig i drin canser endometriaidd yn Ysbyty Gwynedd gyda’r llawfeddyg ymgynghorol gynecolegol, Mr Richard Peevor.

Dywedodd Mrs Roberts: “Roedd hi tuag adeg y Nadolig pan ddechreuais i brofi poenau yn fy stumog a sylwais fod fy stumog wedi dechrau chwyddo.

“Es i i weld fy Meddyg Teulu, a oedd yn wych, a’m cyfeiriodd wedyn at yr ysbyty am brofion pellach ac yn anffodus, gwnaethom ganfod ei fod yn Ganser Endometriaidd. 

“Pan gefais wybod fy mod yn cael llawdriniaeth robotig, roeddwn ychydig yn nerfus gan ei fod yn rhywbeth newydd ond gwnes i ychydig o ymchwil gyda fy merch a daethom i weld beth oedd y buddion gyda’r math yma o lawdriniaeth.

“Mae’n anhygoel bod y dechnoleg hon ar gael gennym yng Ngogledd Orllewin Cymru ac nid oes angen i ni deithio ymhellach i ffwrdd er mwyn cael derbyn y math yma o lawdriniaeth.”

Dywed Mr Peevor bod y rhaglen yn datblygu’n dda yn Ysbyty Gwynedd, gydag adborth cadarnhaol wedi’i dderbyn gan gleifion.

Dywedodd: “Mae croesi’r canfed carreg filltir yn sicr yn gamp fawr ac mae’n glod i’r timau sydd wedi ein cefnogi’r holl ffordd i gyflawni hyn.

“Gwnaethom ddechrau defnyddio roboteg tua chwe mis yn ôl ac rydym wedi gweld bron i bob un o’n cleifion yn mynd adref y diwrnod wedyn. Mae ein cleifion yn hapus iawn gyda’r profiad robotig– mae’r prosiect yn mynd yn dda iawn ac mae’n parhau i dyfu bob mis gyda’r profiad ychwanegol yr ydym yn ei gael.”

Ychwanegodd Yr Athro Jared Torkington, Llawfeddyg Ymgynghorol y Colon a'r Rhefr  ac Arweinydd Clinigol ar gyfer y Rhaglen Genedlaethol Llawdriniaethau â Chymorth Robot yn Ysbyty Athrofaol Cymru: “Mae cyflawni 100 o lawdriniaethau gyda chymorth robot ar draws dau arbenigedd canser gan ddefnyddio system Versius yn foment arloesol i'r GIG yng Nghymru. Mae’n cynrychioli llwyddiant ysgubol i’r rhaglen yr ydym yn parhau i’w hehangu. Diolch enfawr am y cymorth a gawsom gan Lywodraeth Cymru, Menter Canser Moondance, Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru ac ystwythder ac egni timau clinigol a chaffael y GIG sydd wedi gallu creu’r berthynas hon gyda CMR Surgical a chynnig triniaethau sy’n torri tir newydd ar gyfer cleifion yng Nghymru.”