Neidio i'r prif gynnwy

Cyhoeddi Cyfarwyddwr Meddygol Gweithredol newydd

30/07/21

Mae Jo Whitehead, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi cyhoeddi penodiad Dr Nick Lyons fel Cyfarwyddwr Meddygol Gweithredol, y disgwylir iddo ddechrau yn ei swydd ar ddiwedd Awst 2021.  

Mae Nick yn ymuno â Betsi Cadwaladr o Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, lle mae wedi bod yn Gyfarwyddwr Meddygol Gweithredol ers 2019. 

Dywedodd Jo Whitehead: 

"Mae'n bleser gen i gyhoeddi y bydd Dr Nick Lyons yn ymuno â ni y mis nesaf. Bu Nick yn rhan o broses ddethol fanwl ac yn ystod y broses honno, yr hyn a wnaeth gymaint o argraff arnom oedd i ba raddau y mae'n rhannu ein gwerthoedd i weithio gyda'n gilydd i roi cleifion yn gyntaf a gwrando ar ein cydweithwyr meddygol gwych a rhoi cymorth iddynt o ran dysgu ac arloesi.  

“Rwy'n siŵr y bydd Nick yn gaffaeliad mawr i'r Bwrdd ac rydym ni i gyd yn edrych ymlaen at weithio gydag ef wrth i ni ymdopi â heriau COVID-19 ac wrth i ni geisio gwireddu ein huchelgeisiau ar gyfer y dyfodol.  

"Mae'r penodiad hwn yn golygu bod gennym dîm gweithredol llawn a pharhaol, wedi'i uno o ran ein hymrwymiad i arwain gwelliannau gwirioneddol a pharhaus i iechyd poblogaeth Gogledd Cymru ac i wasanaethau iechyd ar draws y rhanbarth.  

"Hoffwn i ddiolch i'r Athro Arpan Guha, ein Dirprwy Gyfarwyddwr Meddygol, am gyflawni rôl Cyfarwyddwr Meddygol Gweithredol dros yr ychydig fisoedd diwethaf, sydd wedi bod yn arbennig o heriol oherwydd y pandemig. 

Dywedodd Dr Nick Lyons: 

"Rydw i'n edrych ymlaen yn fawr at ddychwelyd i Ogledd Cymru lle hyfforddais fel meddyg teulu, gan weithio yn Ysbyty Gwynedd, Ysbyty Glan Clwyd ac Ysbyty Wrecsam Maelor. Yn dilyn hyn, cwblheais y cynllun hyfforddi i feddygon teulu yng Ngogledd Clwyd, fel yr oedd bryd hynny, gan weithio mewn practisau ym Mae Penrhyn a Threffynnon cyn ymgymryd â rôl cymrawd clinigol yn Ysbyty HM Stanley.  

"Ar ôl byw yn Nyffryn Clwyd gyda'm teulu ifanc yn ystod y 1990au, rydw i'n edrych ymlaen yn fawr at ddychwelyd i'r ardal rydw i'n ei hadnabod a'i charu. Rydw i'n gyffrous i gael ymuno â thîm arwain Betsi Cadwaladr ac rydw i'n awyddus i gyfarfod a dod i adnabod fy nghydweithwyr newydd dros yr wythnosau sydd i ddod.  

"Mae'r gwasanaeth iechyd yn wynebu heriau digynsail oherwydd COVID-19 yn cynnwys arosiadau hir am ddiagnosis a thriniaeth ac rydym yn gweld galw mawr am wasanaethau. Fodd bynnag, rydw i'n obeithiol y gallwn fynd i'r afael â'r heriau hyn, gan fy mod i'n gwybod bod gwaith gwych yn cael ei wneud ar draws y Bwrdd Iechyd. Byddaf yn gwneud popeth o fewn fy ngallu i gefnogi cynnydd a gwelliannau pellach." 

Mae gan Nick gryn brofiad mewn arweinyddiaeth feddygol ac addysg feddygol, ar ôl gweithio fel Cyfarwyddwr Meddygol hefyd yn Ynysoedd y Sianel ac mewn ysbytai llym yng Ngwlad yr Haf a Norfolk cyn dychwelyd i Gymru gyda Cwm Taf Morgannwg.