Neidio i'r prif gynnwy

'Cyflym, effeithlon a hollol ddi-boen' - Cleifion yn diolch i dîm ysbyty am y driniaeth ar y bledren gyntaf o'i math yng Nghymru

04/10/2023

Mae dau glaf yn Ysbyty Maelor, Wrecsam wedi diolch i'r tîm meddygol am driniaeth 'gyflym a hollol ddi-boen', y gyntaf o'i math yng Nghymru sy'n defnyddio laser arloesol i gael gwared ar ardaloedd amheus neu diwmorau ar y bledren.

Mae’r driniaeth yn defnyddio Abladiad Laser Traws Wrethrol (TULA), sef archwiliad o'r bledren gan ddefnyddio camera ar diwb tenau hyblyg â laser i drin y bledren.

Dros y 15 mlynedd diwethaf, mae John James, 84 mlwydd oed, wedi bod yn dioddef o dyfiannau ar ei bledren sy'n dychwelyd dro ar ôl tro. Yn y gorffennol, cafodd dynnu'r tyfiannau drwy lawdriniaeth lawn o dan anesthetig cyffredinol. Roedd hyn yn golygu diwrnod cyfan yn yr ysbyty a chyfnod i wella. Roedd John yn un o'r rhai cyntaf i gael tynnu tyfiant gyda laser.

Dywedodd John: "Dw i wedi cael yr hen driniaeth lawfeddygol o leiaf bedair gwaith o'r blaen yn y 15 mlynedd diwethaf. Fe fyddwn i'n cyrraedd yr ysbyty am 7 y bore am anesthetig llawn ac yn cael fy rhyddhau yn hwyr iawn yn ystod y dydd. Roedd y driniaeth laser newydd yn hollol wych. Fe wnaeth y driniaeth a'r Tîm Wroleg yn Ysbyty Maelor Wrecsam, argraff fawr arnaf i. Maen nhw'n eithriadol.

"Roedd gen i syniad go dda beth fyddai'n digwydd yn ystod y driniaeth, ond cefais fy synnu gyda pha mor effeithlon, cyflym a hollol ddi-boen yr oedd hi. Roeddwn i'n rhyfeddu bod y driniaeth mor gyflym. Doeddwn i ddim yno am fwy na 12-15 munud ac roeddwn i'n teimlo'n iawn ar unwaith. Am ddatblygiad ac arloesedd rhyfeddol!

"Roeddwn i'n gallu dilyn beth roedden nhw'n ei wneud yn ystod y driniaeth, roedd fel sesiwn ddysgu. Mae hyn wedi bod yn rhyddhad mawr. Roedd yn dyfiant bach a gafodd ei weld yn gynnar. Dw i wedi cael gofal anhygoel gan y Tîm Wroleg dros y blynyddoedd. Dw i'n cael archwiliadau rheolaidd ac ni allaf i ganmol ddigon arnyn nhw."

Cafodd y laser newydd sydd tua'r un maint â ffôn clyfar, ei ariannu drwy Awyr Las, elusen GIG Gogledd Cymru a Gwasanaethau Canser y Bwrdd Iechyd.

Mae gan Elizabeth Comer, 82 mlwydd oed o Wrecsam, hefyd dyfiannau sy'n dychwelyd ar ei phledren. Yn y gorffennol, tynnwyd y tyfiannau o dan anesthetig lleol oherwydd bod ganddi ormod o ofn cael anesthetig cyffredinol. Roedd hi'n un o'r cyntaf i gael cynnig y driniaeth laser.

Dywedodd Elizabeth: "Pan oeddwn i'n cael tynnu tyfiant o'r blaen, gallwn fod yn yr ysbyty drwy'r dydd, ond roedd y driniaeth laser mor gyflym, hawdd a di-boen. Pan eglurodd yr Athro Shergill am y driniaeth laser newydd, fe wnes i feddwl y byddwn i'n rhoi cynnig arni, ac roedd y driniaeth yn wirioneddol ddi-boen.

"Mae'r Athro Shergill a'r tîm yn wych. Fydda' i ddim yn teimlo'n nerfus o gwbl am ddod yma eto. Fydda' i ddim yn poeni o gwbl."

Dywedodd yr Athro Lawfeddyg Iqbal Shergill, Arweinydd Clinigol Wroleg yn Ysbyty Maelor, Wrecsam: "Mae TULA yn hynod o effeithiol wrth drin canser y bledren sydd yn y camau cyntaf heb fawr o sgileffeithiau, felly dim poen nac anghysur, a chyfradd llwyddiant uchel.

"Mewn triniaethau wroleg, mae'n bosibl cael TULA o dan anesthetig lleol, ac yn y rhan fwyaf o achosion, fe gewch fynd adref ar yr un diwrnod a'r driniaeth sy'n cymryd rhwng 10 a 20 munud i'w gwblhau. Mae hyn yn golygu y bydd ein cleifion yn cael un driniaeth fer, gwell cyfle i wella, a llai o amser yn yr ysbyty.

"Mae Ysbyty Maelor, Wrecsam wedi dechrau cynnig y driniaeth hon ac mae'n ychwanegiad gwerthfawr at opsiynau triniaeth canser yr ysbyty. Mae’r llawdriniaeth laser newydd yn dod o ganlyniad i raglen wella’r gwasanaeth sy'n dilyn canllawiau cenedlaethol Gwneud Pethau’n Iawn y Tro Cyntaf (GIRFT).

Rwy'n falch bod ein cleifion wedi cael profiad cadarnhaol gyda'r driniaeth newydd hon. Hoffwn hefyd ddiolch i Kelly Price, ein Nyrs Arweiniol TULA yn yr Adran Wroleg, a'r Ymarferwyr Nyrsio Wroleg, Mandy Giddins a Melody Matondo sydd wedi helpu a chefnogi'r adran drwy gydol y broses, a'n tîm rheoli yn yr ysbyty."

Dywedodd Caroline Williams, Rheolwr Rhwydwaith Canser y Bwrdd Iechyd: "Mae'r Gwasanaethau Canser yn falch iawn o gefnogi cyflwyno'r driniaeth arloesol newydd hon yn Ysbyty Maelor, Wrecsam, yn arbennig gan mai canser y bledren yw’r ail ganser mwyaf cyffredin mewn wroleg. Bydd y rhan fwyaf o gleifion yn cael apwyntiadau dilynol yn rheolaidd am flynyddoedd lawer.”

Dywedodd Ian Donnelly, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Cymuned Iechyd Integredig y Dwyrain: "Roedd cyflwyno'r gwasanaeth TULA yn un o argymhellion Gwneud Pethau'n Iawn y Tro Cyntaf ar gyfer gwella darpariaeth gwasanaethau'r Bwrdd Iechyd. Mae'n wych gweld ein bod wedi cwblhau'r gwasanaeth TULA cyntaf yng Nghymru. Mae hyn yn dangos ymrwymiad y timau clinigol a gweithredol i wella ansawdd a mynediad i'n holl gleifion."

Dywedodd Keri Lavelle, Rheolwr Arbenigedd Safle Llawfeddygaeth: "Rydw i'n falch iawn o fod yn rhan o'r Gwasanaeth Wroleg yn Ardal y Dwyrain. Rydym yn parhau i fod yn flaengar ac yn gweithio ar y cyd i gyflwyno arloesedd gan sicrhau bod ein cleifion yng Ngogledd Cymru yn cael y driniaeth orau bosibl, a chyn gynted â phosibl.