Neidio i'r prif gynnwy

Canolfan orthopedig newydd yn ysbyty Llandudno

Mae Llywodraeth Cymru wedi cytuno ar gyllid gwerth hyd at £29.4 miliwn ar gyfer canolfan orthopedig newydd yn Ysbyty Llandudno er mwyn helpu i leihau amseroedd aros ym maes orthopedeg.

Bydd y ganolfan newydd yn trawsnewid gwasanaethau orthopedig a gynlluniwyd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ac yn sicrhau budd i gleifion, staff a chymuned ehangach y Gogledd, gan gyflawni 1,900 o driniaethau a gynlluniwyd y flwyddyn.

Yn arbenigo mewn ymdrin â llawer o achosion, nad ydynt yn rhai cymhleth, bydd y ganolfan bwrpasol yn cynyddu gweithgarwch llawfeddygol blynyddol. Gan ddarparu gwasanaethau orthopedig i ffwrdd o ysbytai, bydd y ganolfan hefyd yn lleihau'r effeithiau y gall gofal heb ei drefnu eu cael ar driniaethau a gynlluniwyd ac yn lleihau'r posibilrwydd o lawdriniaethau yn cael eu gohirio.

Bydd y cyllid gan Lywodraeth Cymru yn adnewyddu ward wag yn Ysbyty Llandudno i greu lle ar gyfer 19 o welyau ychwanegol, dwy theatr newydd ac uned adferiad gwell / Gofal Ôl-Anesthetig gydag wyth gwely ynddynt.

Bydd y gwaith yn Ysbyty Llandudno yn dechrau ym mis Chwefror 2024 gyda'r disgwyliad y bydd y ganolfan yn gweithredu yn llawn yn gynnar yn 2025. Bydd gwasanaethau Orthopedig a Gynlluniwyd yn parhau yn Ysbyty Abergele nes bod y ganolfan newydd wedi'i hadeiladu.

Unwaith y bydd y ganolfan wedi'i hagor, gallai cleifion sydd angen triniaeth orthopedig ac sydd angen arhosiad byr mewn ysbyty gael cynnig llawdriniaeth yn Llandudno. Bydd cleifion yn parhau i allu dewis i gael llawdriniaeth yn eu hysbyty cyffredinol agosaf os ydynt yn dymuno hynny. 

Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan:

"Bydd y ganolfan orthopedig newydd hon o fudd enfawr i bobl y Gogledd a'r bwrdd iechyd. Yn aml, pobl sydd â phroblemau orthopedig sy'n gorfod aros hiraf am driniaeth. Mae'r buddsoddiad hwn wedi'i wneud oherwydd bod clinigwyr wedi dangos eu hymrwymiad i wella lefelau cynhyrchiant ym maes orthopedeg ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Mae angen dal ati â'r gwaith da hwn a bydd y ganolfan bwrpasol hon yn helpu i leihau ymhellach yr amser y mae angen i bobl aros am driniaeth yn ogystal â chynnal y cynnydd yn nifer y cleifion sy'n cael eu trin.  Yn ogystal â gwella canlyniadau cleifion, rwy'n gobeithio y bydd yn helpu'r bwrdd iechyd i ddenu a chadw staff ac edrychaf ymlaen at agor y cyfleuster newydd hwn."

Dywedodd Carol Shillabeer, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr:

"Rydyn ni'n falch iawn bod Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo ein cynnig gan y bydd y Ganolfan Gofal Orthopedig a Gynlluniwyd newydd hon yn Ysbyty Llandudno yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i bobl y Gogledd yn ogystal â'n helpu ni i sicrhau cyfleuster a fydd yn cael ei amddiffyn rhag pwysau argyfyngau.

"Rydyn ni o'r farn y bydd canolfan orthopedig bwrpasol yn ein helpu ni i gynyddu ein gallu ar gyfer llawdriniaethau orthopedig ac o gymorth mawr i leihau amseroedd aros i bobl mewn cymunedau ledled y Gogledd.

"Hoffem ddiolch i'r holl gydweithwyr sydd wedi bod yn rhan o ddod â'r achos busnes hwn at ei gilydd ac edrychwn ymlaen at weld y datblygiad yn dechrau yn y flwyddyn newydd."

 Dywedodd Mr Madhusudhan Raghavendra, Arweinydd Clinigol ac Arweinydd y Rhwydwaith ar gyfer Orthopedeg yn ardal ganolog y Bwrdd Iechyd a Llawfeddyg Orthopedig Ymgynghorol:

 "Mae'r cyhoeddiad hwn yn gam cadarnhaol iawn yn ein cynlluniau i wella gofal orthopedig ledled y Gogledd.

"Nid yn unig y bydd cyfuno sgiliau ac arbenigedd staff mewn un lle yn lleihau rhestrau aros ar gyfer cleifion orthopedig, ond bydd hefyd yn golygu y gallwn ryddhau gwelyau yn y prif ysbyty fel y gall cleifion eraill, sydd angen mathau eraill o driniaeth neu ofal brys, elwa ar hynny gan leihau amseroedd aros iddyn nhw hefyd.

"Rydyn ni wedi gweld manteision y mathau hyn o ganolfannau ledled y Deyrnas Unedig, ac rydyn ni eisoes wedi gweld manteision y math hwn o gydweithio yn sgil ein prosiect yn Ysbyty Abergele.

"Yn ogystal â'r manteision ar gyfer ein cleifion, bydd cael canolfan fel hon yn y Gogledd yn ein helpu i ddenu gweithwyr gofal iechyd proffesiynol o ansawdd uchel. Rydyn ni felly yn edrych ymlaen yn fawr at weld y gwaith yn dechrau ac at drin ein cleifion cyntaf yn y ganolfan tua diwedd y flwyddyn nesaf."