Neidio i'r prif gynnwy

Canolfan gymorth ym Mhwllheli yn dathlu carreg filltir o 30 mlynedd

22.09.22

Mae hafan ddiogel yng nghanol Pwllheli sy'n cynnig cymorth i aelodau o'r gymuned sydd fwyaf agored i niwed wedi cyrraedd carreg filltir o 30 mlynedd.

Mae Canolfan Felin Fach yn rhoi cymorth gyda bron popeth sy'n gallu peri gofid neu sy'n gallu arwain at argyfwng ers 30 mlynedd - o broblemau emosiynol ac iechyd meddwl, anawsterau ariannol, tai/digartrefedd, iechyd a lles cyffredinol a chwilio am waith.

Mae Rheolwr y Ganolfan, Christine Hughes, a fu'n rhan o sefydlu'r ganolfan ar gyfer yr ardal yn hynod falch o'r hyn y mae ei thîm wedi'i gyflawni dros y tri degawd diwethaf.

Dywedodd: "Rydw i'n falch bod Felin Fach wedi cyrraedd y garreg filltir hon - mae wedi bod yn anrhydedd ac yn fraint i mi fod yn rhan o ddatblygu gwasanaethau iechyd meddwl yn yr ardal hon, ac i ddod i adnabod llawer iawn o bobl ddiddorol sydd wedi troi atom ni am gymorth dros y blynyddoedd.

"Mae'r ganolfan wedi bod yn rhan annatod o'r rhwydwaith gwasanaethau cymorth ledled Gwynedd, ac rydw i'n ddiolchgar am yr holl gymorth gan Gyllidwyr, Staff, Gwirfoddolwyr ac Ymddiriedolwyr sydd wedi helpu i sicrhau bod hyn yn digwydd."

Mae'r Ganolfan hefyd yn gartref i Hwb Fedra' i y Bwrdd Iechyd y gellir manteisio arno trwy alw heibio ac sy'n rhoi cymorth ar ystod o faterion yn cynnwys dyled, perthynas yn chwalu, problemau gyda chyffuriau neu alcohol, anawsterau cyflogaeth, profedigaeth, tai ac unigrwydd.

Dywedodd Meinir Evans, Swyddog Datblygu Gwasanaeth, a oedd yn rhan annatod o ddatblygu menter Fedra' i: "Roedd yn bleser gen i fod yn rhan o'r dathliadau yn ddiweddar i ddathlu carreg filltir 30 mlynedd Canolfan Felin Fach. Mae Canolfan Felin Fach yn cynrychioli hafan ddiogel, ffynhonnell o wybodaeth a mynediad at ansawdd bywyd gwell a chymorth i gynifer o bobl, ac rydym ni'n edrych ymlaen at barhau i gynnig y safon uchel o gymorth, gwybodaeth a lloches am flynyddoedd lawer i ddod."

Ychwanegodd Bethan Russell Williams, Prif Weithredwr Mantell Gwynedd, sydd wedi cefnogi Canolfan Felin Fach dros y 30 mlynedd diwethaf: "Mae'n wych gweld bod Canolfan Felin Fach yn tyfu, yn datblygu ac yn ffynnu.

"Mae'r bartneriaeth unigryw rhwng y Bwrdd Iechyd a Felin Fach wedi bod yn hollbwysig i'r llwyddiant hwn.

Mae Canolfannau fel Felin Fach yn cynnig gwasanaeth pwrpasol o ansawdd uchel yng nghanol y gymuned ac mae'r math hwn o wasanaeth, yn ei dro, yn lleihau pwysau ar wasanaethau cyhoeddus prif ffrwd.

"Mae Mantell Gwynedd yn cefnogi Felin Fach ers degawdau ac yn dymuno'n dda i'r Ganolfan ar gyfer y dyfodol. Bydd gweithio mewn partneriaeth â'r sector cyhoeddus, wrth reswm, yn hollbwysig i gynnal gwasanaethau o ansawdd uchel ar gyfer pobl Pen Llŷn.”

I gael rhagor o fanylion am ein Hybiau Cymunedol Fedra' i, ewch i: Hybiau Cymunedol Fedra' i - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (nhs.wales)