Neidio i'r prif gynnwy

Bygythiad canser ceg y groth yn annog mam ifanc i annog eraill i beidio oedi cyn cael profion ceg y groth

17 Tachwedd 2022

Nid yw dewis a ddylid cael hysterectomi ar ôl cael diagnosis o ganser ceg y groth byth yn benderfyniad hawdd i fenyw o unrhyw oedran.

Serch hynny, dyna a wynebodd Nicola Hughes, 33 oed o Fagillt pan gafodd ddiagnosis o’r clefyd ym mis Mai 2022.

Cadarnhaodd canlyniadau prawf ceg y groth arferol yn gynharach yn y flwyddyn fod gan Nicola y firws papiloma dynol risg uchel (HPV) a newidiadau i gelloedd ceg y groth.

Dywedodd: “Cefais fy apwyntiad sgrinio ceg y groth cyntaf yn 25 oed a dylwn fod wedi mynychu fy mhrawf sgrinio nesaf dair blynedd yn ddiweddarach ond fe wnes i oedi.

“Hoffwn pe bawn wedi mynd yn gynharach - rydych chi bob amser yn meddwl na fydd yn digwydd i chi a phe bawn i'n gallu troi'r cloc yn ôl byddwn wedi mynd pan oeddwn i fod i wneud hynny.

“Cefais fy annog i fynd gan fy ffrind ac rydw i mor falch fy mod wedi gwneud hynny. Ar ôl i mi dderbyn fy nghanlyniadau,  trefnwyd i gael colgosgopi ar gyfer ymchwiliadau pellach.

“Roedd y celloedd annormal yn ganseraidd ond yn ffodus nid oedd wedi lledaenu i unrhyw le arall yn fy nghorff.”

Yn dilyn trafodaethau gyda’i thîm clinigol yn Ysbyty Gwynedd, dewisodd Nicola dderbyn hysterectomi (tynnu’r groth) i leihau’r risg o gelloedd canseraidd yn dychwelyd yn ei serfics.

Dywedodd Nicola, sy'n fam i Oliver 13 oed ac Ava sy'n chwech oed, mai dyna'r peth iawn i'w wneud yn ei hamgylchiadau.

“Yn sicr nid oedd gwneud y penderfyniad hwnnw i gael hysterectomi yn benderfyniad syml, ond dyma’r un iawn i mi.

“Mae gen i ddau o blant hardd ac rwy'n teimlo bod fy nheulu yn gyflawn. Mae’n bwysicach i mi fy mod o gwmpas ar gyfer fy mhlant yn tyfu i fyny felly roeddwn i eisiau gwneud unrhyw beth y gallwn i leihau’r siawns y bydd y canser yn dychwelyd.”

Derbyniodd Nicola ei llawdriniaeth yn ystod mis Medi a hi oedd y claf cyntaf yng Nghymru i gael hysterectomi gan ddefnyddio Robot Versius Llawfeddygol CMR yn Ysbyty Gwynedd fel rhan o’r Rhaglen Genedlaethol â Chymorth Robot newydd.

Dywedodd ei llawfeddyg, Miss Ros Jones: “Rydym yn falch iawn o fod wedi cwblhau’r hysterectomi robotig cyntaf yn Ysbyty Gwynedd.

“Mae Nicola wedi gwella’n dda iawn ac rydym yn falch o gael y dechnoleg hon ar gael i ni i’n helpu i gyflawni triniaethau cymhleth yn fanwl gywir.

“Mae’r prawf HPV rydym ni’n ei ddefnyddio bellach yng Nghymru yn fwy effeithiol o ran nodi pobl sydd â risg uwch o ddatblygu newidiadau celloedd a all achosi canser ceg y groth fel mae hwn yn ddatblygiad pwysig yn rhaglen sgrinio canser ceg y groth.

 “Gallai mynd am eich apwyntiad sgrinio achub eich bywyd. Trwy fynychu eich apwyntiad mae gennych gyfle i atal canser ceg y groth rhag datblygu, neu ei ganfod yn gynnar pan fydd yn haws ei drin.”

Mae Nicola, sy'n gwneud yn dda yn dilyn ei llawdriniaeth, bellach yn annog eraill i beidio oedi cyn mynd am eu profion ceg y groth.

“Dylwn fod wedi mynychu fy apwyntiad sgrinio yn llawer cynt nag y gwnes ac os nad oeddwn wedi mynd pan wnes i efallai y byddai wedi bod yn ganlyniad gwaeth i mi.

“Mae fy mhrofiad wedi dangos pa mor bwysig yw hi i fynychu eich prawf ceg y groth - gall achub eich bywyd.

“Rwy’n gobeithio y bydd fy stori yn annog mwy o bobl i fynd i’w prawf ceg y groth ac i beidio oedi – mae mor bwysig.

“Rwy’n teimlo’n lwcus iawn ac rwy’n hynod ddiolchgar i’r tîm yn Ysbyty Gwynedd am edrych ar fy ôl trwy gydol fy amser dan eu gofal.”