Neges gan y Cadeirydd - Adolygiad o Ansawdd Arweinyddiaeth

24.11.2026

Dywedodd Dyfed Edwards, Cadeirydd:  

"Mae'r Adolygiad o Ansawdd Arweinyddiaeth yn anodd ei ddarllen. Mae ei ganfyddiadau'n ddifrifol ac mae'r Bwrdd yn derbyn ei gyfrifoldebau i weithredu arnynt. Rydym yn cydnabod nad yw ein hymdrechion i fynd i'r afael â heriau hirsefydledig y Bwrdd Iechyd wedi bod yn ddigonol ac mae angen i ni newid sut rydym yn arwain, sut rydym yn gwrando a sut byddwn yn gweithredu pan fydd pobl yn codi pryderon. 

"Rwyf am ddiolch i bawb a rannodd eu profiadau gyda'r panel adolygu. Cymerodd ddewrder i rai cydweithwyr siarad am yr hyn a oedd wedi digwydd iddynt. Mae'n ddrwg iawn gennyf i'r rhai sydd wedi cael eu brifo trwy eu profiadau yn y gwaith, gan gynnwys y rhai nad oeddent yn teimlo'n ddiogel i ddweud eu dweud neu a rannodd bryderon ac a welodd fawr ddim newid. Dylai pobl allu siarad yn agored a bod yn hyderus y caiff eu pryderon eu cymryd o ddifrif. Mae hynny'n bwysig i'r bobl sy'n gweithio yma ac er mwyn diogelwch y bobl sy'n derbyn gofal gennym ni. 

"Rwy'n gwybod y bydd yr adroddiad hwn yn arwain at gwestiynau i bobl sy'n dibynnu ar ein gwasanaethau ac i'r teuluoedd sy'n poeni am y gofal y bydd eu hanwyliaid yn ei dderbyn. Mae'n rhaid i ni weithredu'n brydlon ar risgiau i gleifion, gan gynnwys y risgiau sydd ynghlwm wrth ofalu am bobl mewn coridorau. Mae'r rhaid i'r Bwrdd sicrhau bod pryderon yn arwain at benderfyniadau a chamau gweithredu, a'n bod yn cymryd camau dilynol i weld p'un a yw gofal wedi gwella. 

"Mae Llywodraeth Cymru wedi cydnabod bod y Bwrdd Iechyd wedi gwneud cynnydd da. Mae gwaith da yn digwydd ar draws gogledd Cymru bob dydd, diolch i ymrwymiad ein staff a'r bobl sy'n gweithio ochr yn ochr â nhw. Mae hynny'n rhoi gobaith i mi. Mae angen bellach i ni adeiladu ar yr hyn sy'n gweithio a sicrhau bod pobl yn gweld y manteision lle bynnag y byddant yn gweithio neu'n derbyn gofal, gan gynnwys pan fo gwasanaethau'n wynebu pwysau. 

"Byddwn bellach yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru a'i chynghorwyr er mwyn bodloni eu gofynion a gweithredu ar ganfyddiadau’r Adolygiad o Ansawdd Arweinyddiaeth. Byddwn yn amlinellu beth fyddwn yn ei wneud yn gyntaf, pwy fydd yn gyfrifol a phryd y gall pobl ddisgwyl clywed am gynnydd. Wrth wneud hynny, byddwn yn parhau i adeiladu ar beth mae staff, cleifion, teuluoedd a phartneriaid yn ei ddweud wrthym am eu profiadau a beth sydd angen ei newid.  

"Bydd y newidiadau strwythurol a gynigir o dan Sylfeini ar gyfer y Dyfodol yn cael eu hatal. Byddwn yn gweithio ar frys er mwyn caniatáu recriwtio i swyddi sy'n flaenoriaeth tra byddwn yn cytuno ar sut y dylai'r Bwrdd Iechyd gael ei drefnu a'i gynnal. 

"Rydym yn gwybod bod yn rhaid i ymddiriedaeth gael ei hennill. Mae'r Bwrdd yn gyfrifol am y gwaith hwn, a byddwn yn agored am yr hyn sydd wedi newid, pa wahaniaeth y mae'n ei wneud a lle'r ydym yn dal i fod â gwaith i'w wneud. Credaf ein bod yn gallu sicrhau bod Betsi yn lle gwell i weithio ynddo ac i dderbyn gofal. Mae pobl ar draws gogledd Cymru yn haeddu ein gweld ni'n sicrhau canlyniadau."