Gwasanaeth Canolfan Gofal Sylfaenol Brys (UPCC)

10 Tachwedd 2026

Dywedodd Carol Shillabeer, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: "Rydym yn deall y pryderon sydd wedi’u codi ynghylch dyfodol gwasanaeth y Canolfan Gofal Sylfaenol Brys (UPCC) yn Ysbyty Penrhos Stanley, Ysbyty Gwynedd ac Ysbyty Alltwen. Rydym am roi sicrwydd i gymunedau lleol mai ein nod yw gwella mynediad at ofal brys ar yr un diwrnod, nid ei leihau. Rydym hefyd am ei gwneud yn glir nad oes unrhyw gynlluniau i gau ein Hunedau Mân Anafiadau nac ysbytai cymunedol, er gwaethaf y dyfalu sydd wedi bod ar y cyfryngau cymdeithasol.

“Mae’r Canolfannau Gofal Sylfaenol Brys presennol yn cyfrif am lai nag 1% o apwyntiadau practisau meddygon teulu yn yr ardaloedd y maent yn eu gwasanaethu. Ar hyn o bryd, rydym yn ystyried dyfodol y gwasanaeth fel rhan o adolygiad ehangach, a fydd yn nodi'r ffordd orau o ddarparu gwasanaethau gofal brys ar yr un diwrnod, sy'n deg, yn gynaliadwy ac o ansawdd uchel, i gleifion ledled Gogledd Cymru.

Wrth i'r gwaith hwn fynd yn ei flaen, byddwn yn adolygu arferion gorau ac yn ystyried amrywiaeth o ddulliau, gan gynnwys y model sy'n dod i'r amlwg sef Gofal Cymunedol Brys ar yr Un Diwrnod (SDUCC), rôl Fferyllfeydd Cymunedol, ac opsiynau ar gyfer Canolfannau Triniaeth Frys. Bydd cyfleoedd i gleifion, cymunedau, staff a phartneriaid gyfrannu cyn y gwneir unrhyw argymhellion neu benderfyniadau.”