16.09.2026
Dywedodd Teresa Owen, Dirprwy Brif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: "Rydym yn meddwl am y teuluoedd sydd wedi'u heffeithio gan y digwyddiadau yr ymdrinnir â nhw yn Ymchwiliad Thirlwall yn anad dim.
“Mae'n rhaid i ganfyddiadau'r ymchwiliad gael eu cymryd o ddifrif ar draws y GIG cyfan. Er bod yr adroddiad yn ymwneud â digwyddiadau yn GIG Lloegr, mae i'w ganfyddiadau a'i argymhellion berthnasedd clir i sefydliadau gofal iechyd ehangach ac maent yn darparu gwersi pwysig i'w dysgu yn ymwneud â diogelwch cleifion, diogelu, llywodraethu clinigol, arweinyddiaeth a diwylliant sefydliadol.
"Rydym bellach yn adolygu ei ganfyddiadau a'i argymhellion yn fanwl. Byddwn yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru a phartneriaid perthnasol i ddeall y goblygiadau i wasanaethau yng Nghymru ac unrhyw gamau gweithredu y gallai fod angen i ni eu cymryd.
"Mae'n hanfodol bod teuluoedd, cleifion a staff yn teimlo eu bod yn gallu codi pryderon a bod ganddynt hyder y byddwn yn gwrando ar y pryderon hynny, yn eu huwchgyfeirio'n briodol ac yn gweithredu arnynt. Fel rhan o ystyried yr adroddiad, byddwn yn adolygu ein trefniadau presennol yn erbyn argymhellion yr Ymchwiliad a byddwn yn cymryd unrhyw gamau gweithredu pellach sydd eu hangen i atgyfnerthu ein systemau a'n harferion.
“Gall unrhyw glaf neu aelod o'r teulu sydd â phryderon gysylltu â'n Gwasanaeth Ymholiadau a Datrysiadau Pobl (PEARS), sy'n gallu rhoi cyngor a chymorth."