8 Medi 2026
Mae Cyd-bwyllgor Comisiynu GIG Cymru (NWJCC) wedi gofyn i Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro ohirio cyfeiriadau newydd am lawdriniaeth cadarnhau rhywedd, asesiadau llawfeddygol a llawdriniaethau sydd wedi'u trefnu tra bydd adolygiad clinigol annibynnol yn cael ei gynnal. Mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig llwybrau llawdriniaeth cadarnhau rhywedd i gleifion ledled Cymru trwy Wasanaeth Rhywedd Cymru
Bydd yr adolygiad yn ymdrin â sut caiff cleifion eu hasesu a'u cyfeirio am lawdriniaeth cadarnhau rhywedd, a pha un a yw'r ffordd y caiff hyn ei wneud yn briodol. Mae'r gohirio’n dilyn pryderon a godwyd gan NWJCC ynghylch niferoedd cyfeirio a sut mae rhai asesiadau a chyfeiriadau wedi cael eu cynnal.
Mae'n bwysig nodi bod y gohirio’n berthnasol i'r llwybr llawfeddygol yn unig. Mae cymorth arall gan Wasanaeth Rhywedd Cymru yn parhau i fod ar gael, gan gynnwys:
Dylai cleifion sydd ag apwyntiadau gyda Gwasanaeth Rhywedd Cymru eisoes barhau i fynd i'w hapwyntiadau oni fyddant yn cael cyngor fel arall. Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro wedi datgan y caiff cleifion sydd wedi'u heffeithio eu hysbysu'n gyson ynghylch unrhyw ddatblygiadau'n ymwneud â'u gofal.
Rydym yn cydnabod y gallai'r cyhoeddiad hwn beri pryder i gleifion, teuluoedd a gofalwyr ac mae rhagor o wybodaeth, gan gynnwys ble i fanteisio ar gyngor a chymorth, ar gael ar wefan Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro.