Neidio i'r prif gynnwy

Arolygiad gan AGIC, Mai 2026, yr Adran Achosion Brys yn Ysbyty Glan Clwyd

17.06.2026

Neges gan Carol Shillabeer , Prif Weithredwr, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Yn dilyn arolygiad dirybudd gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ym mis Mai 2026, caiff yr Adran Achosion Brys yn Ysbyty Glan Clwyd ei dynodi fel Gwasanaeth sydd Angen eu Gwella'n Sylweddol. Mae'r penderfyniad yn adlewyrchu pryderon difrifol ac rydym yn derbyn y canfyddiadau'n llwyr. 

Mae'r materion yn ymwneud ag arweinyddiaeth a diwylliant, diogelwch cleifion, gorlenwi a diogelwch a phrofiad cleifion sy'n aros i dderbyn gofal. Rydym yn ymddiheuro, mewn rhai meysydd, nad yw safon y gofal wedi bod cystal ag y dylai fod i'n cleifion. 

Gwyddom y bydd hyn yn peri pryder i'r bobl yr ydym yn eu gwasanaethu ac i'n staff, sy'n gweithio o dan bwysau cyson, ac rydym am roi sicrwydd iddynt fod camau gweithredu uniongyrchol ar waith. 

Mae gennym ddealltwriaeth glir am y problemau a ganfuwyd ac mae cynllun gwella cryfach eisoes yn cael ei roi ar waith ar garlam a gyda goruchwyliaeth gadarn. Mae hyn yn cynnwys lleihau gorlenwi, atgyfnerthu diogelwch cleifion, gwella arweinyddiaeth a goruchwyliaeth yn yr adran, a sicrhau bod cleifion yn derbyn gofal diogel o'r adeg y byddant yn cyrraedd, gan gynnwys tra byddant yn aros i gael eu gweld. 

Yr wythnos nesaf, bydd y Bwrdd hefyd yn ystyried cynlluniau i atgyfnerthu staffio yn ein Hadrannau Achosion Brys ledled Gogledd Cymru. Mae hyn yn cynrychioli cam allweddol arall o ran cynnig gwelliannau diogel, prydlon a chynaliadwy o ran gofal brys a gofal mewn argyfwng, ategu ymdrechion parhaus ar y cyd â phartneriaid i fynd i'r afael â materion strwythurol yn ymwneud â chyfyngiadau o ran llif a chapasiti cleifion, gan mai dyna achos gwraidd amseroedd aros hir, oedi o ran trosglwyddiadau ambiwlans, a gorlenwi yn ein Hadrannau Achosion Brys, yn aml.

Ni all y Bwrdd Iechyd fynd i'r afael â'r heriau hyn ar ei ben ei hun ac rydym yn parhau i fod yn hynod ddiolchgar i'n cydweithwyr mewn awdurdodau lleol a sefydliadau partner sy'n gweithio gyda ni i gyflawni'r gwelliannau sydd eu hangen. 

Rydym yn croesawu craffu gan AGIC a byddwn yn parhau i adrodd yn agored ar y cynnydd yr ydym yn ei wneud. Rydym yn canolbwyntio ar gynnig gofal diogel, prydlon ac o ansawdd uchel i bobl Gogledd Cymru. 


Gwefan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru .