Neidio i'r prif gynnwy

Arolygaeth Gofal Iechyd Cymru: Ysbyty Glan Clwyd, Adran Achosion Brys

10 Medi 2026

Dywedodd Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Carol Shillabeer:

“Fel Bwrdd Iechyd, rydym yn ymddiheuro'n ddiamod i'r cleifion hynny na chawsant y gofal maent yn ei haeddu, fel y'i hamlygwyd gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn ystod eu harolygiad o'r Adran Achosion Brys ym mis Mai 2026. Mae gwella gofal cleifion ym maes gofal brys a gofal mewn argyfwng yn flaenoriaeth i'r bwrdd iechyd ac mae'r holl gamau gweithredu sy'n ofynnol gan yr adroddiad arolygu bellach ar y gweill yn yr adran ac mewn mannau eraill yn yr ysbyty.

"Mae cydweithwyr yn yr Adran Achosion Brys yn gweithio'n galed o dan bwysau uchel cyson ac rydym yn falch bod yr adroddiad yn cydnabod gwerthfawrogiad y cyhoedd o'r gofal y maent yn ei gynnig. Gwyddom fod materion systemig sylweddol a hirsefydledig sy'n cymhlethu'r pwysau mewn adran sy'n brysur yn gyson ac mae'n galonogol gweld bod AGIC wedi cydnabod y gwaith sydd wedi cael ei wneud o ran cynorthwyo staff a mynd i'r afael â'r materion hynny, yn eu harolygiad dilynol. Rydym yn ymrwymedig i roi sicrwydd i AGIC a'r cyhoedd ein bod o ddifrif am wella profiadau pobl yn ein Hadrannau Achosion Brys trwy ymgorffori cynnydd i newid hirdymor a chynaliadwy."

Nodiadau i olygyddion: Mae cyngor ar lwybrau priodol i wasanaethau iechyd ar gael yma: Get the right care, first time