Neidio i'r prif gynnwy

Adolygiad Annibynnol o Ansawdd Arweinyddiaeth a chymorth Perfformiad a Gwella GIG Cymru

Dros yr haf, gwnaeth Llywodraeth Cymru gyhoeddi y byddent yn comisiynu adolygiad annibynnol o ansawdd arweinyddiaeth yn ymwneud â strategaeth, diwylliant, arweinyddiaeth, llywodraethu a threfniadau atebolrwydd y Bwrdd Iechyd.  

Mae'r adolygiad wedi dechrau bellach a disgwylir adrodd arno erbyn diwedd mis Hydref 2026. Mae'r panel yn cynnwys tîm o arweinwyr annibynnol hynod brofiadol yn y GIG, gan gynnwys cyn Gyfarwyddwr Meddygol Cenedlaethol ar gyfer GIG Lloegr a chyn arweinwyr cenedlaethol yn y maes meddygol, gweithlu a gwelliant, a chyn brif weithredwyr o sefydliadau mawr y GIG:

 Dr Kathy McLean (Cadeirydd)

  • Yr Athro Syr Stephen Powis
  • Y Fonesig Alwen Williams
  • Yr Athro Em Wilkinson-Brice
  • Dr Pamela Johnston

Caiff y panel adolygu ei gefnogi gan Banel Cyfeirio Arbenigol, a fydd yn rhoi cyngor arbenigol a chyd-destun ar bolisi, llywodraethu a rheoleiddio yn GIG Cymru.

Ochr yn ochr â hyn, mae Perfformiad a Gwella GIG Cymru yn rhoi cymorth uniongyrchol  mewn pedwar maes allweddol; perfformiad gweithredol, ansawdd a diogelwch, cynllunio'r gweithlu ac adferiad ariannol. Y nod yw atgyfnerthu gwasanaethau ymhellach, gwella gofal cleifion a chynorthwyo cynnydd o ran taith y Bwrdd Iechyd yn y tymor hwy.

Dywedodd Carol Shillabeer, Prif Weithredwr: "Rydym yn croesawu unrhyw gymorth ac argymhellion sy'n cynnig cyfle i ddatblygu cynnydd ymhellach ac i ganfod cyfleoedd er mwyn cyflawni gwelliannau cynaliadwy ar draws yr holl feysydd darpariaeth.

"Rydym yn ymrwymedig i ymgysylltu'n agored â'r adolygiad ac i weithredu ar ei ganfyddiadau gan mai cynnig gofal o ansawdd uchel i bobl Gogledd Cymru yw ein blaenoriaeth bob amser."

Dywedodd, Dyfed Edwards, Cadeirydd: "Mae craffu annibynnol yn rhan bwysig o lywodraethu da. Rydym yn croesawu'r adolygiad hwn ac rydym yn ymrwymedig i ymgysylltu'n llawn â'r broses, gwrando'n ofalus ar ei ganfyddiadau a'u defnyddio er mwyn atgyfnerthu'r gwasanaethau yr ydym yn eu darparu ar gyfer pobl Gogledd Cymru."