Neidio i'r prif gynnwy

Mae Ysbyty Glan Clwyd ac Uned Iechyd Meddwl Ablett wedi gweithredu system Rhagnodi a Gweinyddu Meddyginiaethau yn Electronig (ePMA) yn llwyddiannus.

Dyma'r trydydd tro i’r system gael ei gweithredu mewn safle acíwt o fewn y rhaglen mewn dim ond tri mis ac mae'n gam sylweddol ymlaen yn ymrwymiad y Bwrdd Iechyd i foderneiddio rheoli meddyginiaethau a gwella diogelwch cleifion. 

Roedd y gwaith gweithredu yn sylweddol.  Yn ystod y cyfnod tri diwrnod, cafodd mwy na 550 o gleifion eu trawsgrifio â llaw i'r system ddigidol, gan sicrhau parhad gofal wrth i wasanaethau drosglwyddo'n ddiogel o bapur i system rhagnodi electronig. 

I gynorthwyo â’r gweithredu,  daeth staff Fferylliaeth, Meddygol, Nyrsio a Gweinyddol o bob rhan o'r Bwrdd Iechyd at ei gilydd, gan weithio ochr yn ochr i gyflawni'r gweithredu yn y safle acíwt. Fe wnaeth yr ymdrech hon ar y cyd amlygu cryfder cydweithredu ar draws timau, ac fe wnaeth cydweithwyr gynorthwyo ei gilydd i sicrhau bod y lansio’n cael ei gyflawni'n ddiogel ac yn llwyddiannus. 

Mae'r orchest hon yn adlewyrchu ymroddiad, proffesiynoldeb a gwaith tîm staff ar draws timau clinigol, fferyllol, nyrsio a digidol, yn ogystal â'r gwaith partneriaeth gref rhwng BIPBC, Iechyd a Gofal Digidol Cymru a chyflenwr y system, Better.

 

Dywedodd Rhys Davies, Cyfarwyddwr Dros Dro Fferylliaeth a Rheoli Meddyginiaethau: 

"Mae gweithredu ePMA yn Ysbyty Glan Clwyd ac Uned Ablett yn newid trawsnewidiol mewn perthynas â rheoli meddyginiaethau a bydd yn dylanwadu’n gadarnhaol ar ddiogelwch a phrofiad cleifion ac optimeiddio meddyginiaethau ar gyfer ein cleifion yng Nghymuned Iechyd Integredig y Canol. 

Mae hwn yn gamp sylweddol sydd wedi’i gyflawni yn sgil gwaith caled, ymroddiad a chydweithredu gan dimau fferylliaeth, nyrsio, meddygol a digidol y Bwrdd Iechyd, ac mae wedi bod yn bleser gweld y gwaith tîm amlddisgyblaethol yn cyfuno i gyflawni canlyniad mor llwyddiannus.

Byddwn yn adeiladu ar sail y profiad hwn wrth i ni barhau i sefydlu ePMA yn ein Safleoedd Cymunedol ac yn ein hadrannau Cleifion Allanol erbyn diwedd mis Mawrth." 

Mae llwyddo i sefydlu’r system mewn tri rhanbarth Daearyddol mewn tri mis yn ymgymeriad enfawr ac yn gyflawniad anhygoel i bawb sy'n cyfrannu at y gwaith. Bob tro y caiff y system ei lansio, dysgir gwersi yn sgil y lansio blaenorol, gan gryfhau'r rhaglen a helpu i sicrhau y gellir rheoli meddyginiaethau yn fwy diogel a mwy effeithiol ledled y sefydliad. 

Yn dilyn sefydlu’r system yn llwyddiannus yn safleoedd acíwt Ardal y Canol, mae'r rhaglen bellach yn symud i'w cham nesaf. 

Bwriedir cychwyn lansio ePMA yn ysbytai cymunedol ardal y canol ar 16 Mawrth, ac mae gwaith hefyd yn parhau i ehangu rhagnodi i adrannau cleifion allanol ledled y tair Cymuned Iechyd Integredig. 

Bydd y camau nesaf hyn yn ymestyn manteision rhagnodi digidol ymhellach, gan gynorthwyo i reoli meddyginiaethau yn fwy diogel a sicrhau gofal gwell i gleifion ar draws mwy o wasanaethau. 

Llongyfarchiadau a diolch i bawb a wnaeth gyfrannu at gyflawni'r garreg filltir hon. Mae'r ymroddiad, yr hyblygrwydd a'r gwaith tîm a amlygwyd drwy gydol y rhaglen yn parhau i ddangos  ymrwymiad cryf y Bwrdd Iechyd i drawsnewid a gwella gofal i gleifion.