22 Ebrill 2026
Mae llawfeddyg yn Ysbyty Gwynedd wedi cyrraedd carreg filltir sylweddol ar ôl cwblhau ei 100fed llawdriniaeth i osod ffêr newydd yn llwyddiannus.
Y Llawfeddyg Ymgynghorol Orthopedig, Mr Haroon Mumtaz, yw'r unig lawfeddyg sy'n darparu llawdriniaeth i osod ffêr newydd i gleifion yng Ngogledd Cymru, gan helpu pobl ag arthritis difrifol a niwed i'r cymalau i adennill symudedd a lleihau poen. Y gwasanaeth amgen agosaf yw Ysbyty Orthopedig Robert Jones ac Agnes Hunt yng Nghroesoswallt.
Mae’r cyflawniad hwn yn gosod Mr Mumtaz ymhlith y 10 llawfeddyg mwyaf blaenllaw yn y DU ar gyfer y driniaeth hon.
Mae llawdriniaeth i osod ffêr newydd yn llawdriniaeth gymhleth lle mae cymal ffêr sydd wedi'i niweidio yn cael ei ddisodli â mewnblaniad artiffisial. Fe'i cynlluniwyd i leddfu poen wrth gadw symudiad yn y cymal, gan gynnig dewis arall yn lle uno'r ffêr, a all gyfyngu ar symudedd. I gleifion addas, gall y driniaeth newid bywyd, gan eu galluogi i ddychwelyd i weithgareddau bob dydd gyda gwell swyddogaeth a llai o anghysur.
Yn nodi'r garreg filltir oedd 100fed claf Mr Mumtaz, David Finch, sef dyn 77 oed o Lanfairfechan.
Ar ôl dwy ddamwain beic modur dros y blynyddoedd, roedd Mr Finch wedi bod yn byw â phoen cynyddol yn ei ffêr chwith. Tua thair blynedd yn ôl, dysgodd am lawdriniaeth i osod ffêr newydd trwy sgwrs gyda chlaf arall, a phenderfynodd siarad â'i Feddyg Teulu.
Cyn bwrw ymlaen, cafodd gyngor i gael llawdriniaeth i osod pen-glin newydd ym mis Medi 2025 i sicrhau'r canlyniad a'r aliniad gorau posibl ar gyfer y llawdriniaeth ar ei ffêr.
Dywedodd Mr Finch: “Nid oeddwn wedi sylweddoli bod ffêr newydd yn opsiwn tan i mi siarad â rhywun a oedd wedi cael y llawdriniaeth. Dros amser, gwaethygodd y boen yn fy ffêr ac nid oeddwn yn gallu cerdded yn bell, ac roedd hyd yn oed codi pethau yn fy ngweithdy yn anodd.
“Mae’r gofal yr wyf wedi’i gael yn Ysbyty Gwynedd wedi bod yn ffantastig. Mae pawb wedi bod mor gyfeillgar, proffesiynol a gwybodus. Roedd safon y gofal yn anhygoel.
“Rwy’n edrych ymlaen yn arw at gael ailddechrau cerdded yn iawn eto gan obeithio adeiladu’n ôl i bump neu hyd yn oed ddeng milltir.”
Dywedodd Mr Mumtaz: “Mae cyflawni 100 o lawdriniaethau i osod ffêr newydd yn garreg filltir bwysig, ac rwy'n falch o allu cynnig y driniaeth hon i gleifion yma yng Ngogledd Cymru.
“I lawer o bobl sy’n byw gydag arthritis difrifol yn y ffêr, gall y boen fod yn llethol a gall effeithio’n sylweddol ar ansawdd eu bywyd. Gall llawdriniaeth i osod ffêr newydd fod yn drawsnewidiol, gan leddfu poen wrth gadw symudiad yn y cymal.
“Mae’n arbennig o foddhaol gweld cleifion fel Mr Finch yn adennill eu hannibyniaeth ac yn dychwelyd i weithgareddau y maent yn eu mwynhau. Ni fyddai’r gwaith hwn yn bosibl heb gymorth y tîm orthopedig ehangach, staff y theatr a chydweithwyr nyrsio a ffisiotherapi sy’n chwarae rhan hanfodol yng nghanlyniadau cleifion.”
Fe wnaeth Mr Finch hefyd ganmol y tîm am eu cymorth drwy gydol ei daith, o adeg ei ddiagnosis hyd at ei adferiad.
Ychwanegodd: “Mae’r profiad cyfan wedi bod yn un gwych o’r dechrau i’r diwedd. Rwy’n hynod ddiolchgar o fod wedi cael mynediad at y math hwn o driniaeth yn agos at adref.”