Neidio i'r prif gynnwy

Lansio rhaglen ymchwil llosg y galon newydd yng Nghymru

06/05/2026

gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru

Mae rhaglen ymchwil ledled y DU i wella gofal i bobl â llosg y galon, diffyg traul ac adlif asid wedi'i lansio yng Nghymru. Gwahoddir oedolion 55–79 oed sy'n profi symptomau rheolaidd i gymryd rhan.

Mae Iechyd Llosg y Galon yn rhaglen ymchwil genedlaethol ac yn adnodd bio sy'n anelu at wella dealltwriaeth o symptomau cyffredin yn y rhan uchaf o'r system dreulio a sut maen nhw'n datblygu dros amser. Mae cymryd rhan yn cynnwys cwblhau ffurflen fer ar-lein am eich profiadau iechyd, gan helpu ymchwilwyr i lunio gofal yn y dyfodol a nodi cyfleoedd ar gyfer ymchwil bellach.

Yng Nghymru, cefnogir Iechyd Llosg y Galon gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, GIG Cymru ac Ymchwil Canser y DU.

Mae dynion 55–79 oed a menywod 65–79 oed sy'n profi llosg y galon, adlif asid neu ddiffyg traul yn rheolaidd - neu sy'n defnyddio meddyginiaeth i reoli'r symptomau hyn - yn gymwys i gymryd rhan.

Sut i gymryd rhan

Gall pobl yng Nghymru dderbyn neges destun GIG Cymru gyda dolen gofrestru ddiogel. Fel arall, gall unigolion cymwys gofrestru'n uniongyrchol drwy wefan Iechyd Llosg y Galon .

Os nad ydych chi am gael eich gwahodd i gymryd rhan yn benodol yn Iechyd Llosg y Galon, gallwch chi optio allan drwy lenwi ffurflen ar-lein Iechyd a Gofal Digidol Cymru: Optio Allan o Raglen Iechyd Llosg y Galon – Iechyd a Gofal Digidol Cymru , neu drwy ffonio 0808 281 4772, lle gall aelod o'r tîm lenwi'r ffurflen optio allan ar eich rhan.

Am fwy o fanylion am y rhaglen a sut i gymryd rhan, ewch i www.heartburnhealth.org .