Neidio i'r prif gynnwy

Dawnswraig yn dychwelyd i Ysbyty Gwynedd i ddiolch i'r staff flwyddyn ar ôl llawdriniaeth i osod clun newydd a newidiodd ei bywyd

22 Mai 2026

Mae dychweliad cyflym claf i lefelau uchel o weithgarwch yn dilyn llawdriniaeth i osod clun newydd wedi tynnu sylw at fanteision posibl techneg lawfeddygol sy'n creu archoll mor fach â phosib sydd bellach yn cael ei chyflwyno ar gyfer cleifion dethol yn Ysbyty Gwynedd.

Roedd Sarah Woosey, perfformiwr profiadol sydd wedi ymddangos mewn cynyrchiadau West End a sioeau llongau mordeithio, wedi bod yn dioddef o arthritis poenus yn ei chlun, ac roedd yn ofni na fyddai byth yn gallu dawnsio eto.

Ar ddechrau 2025, cafodd lawdriniaeth i osod clun newydd gan ddefnyddio’r dull pen blaen gydag 'endoriad bicini', a gynhaliwyd gan y Llawfeddyg Ymgynghorol Orthopedig, Mr Muthu Ganapathi.

Mae'r dechneg arbed cyhyrau hon yn gweithio rhwng y cyhyrau yn hytrach na thorri drwyddynt ac, i gleifion addas, gall gefnogi adferiad cyflymach a gwell symudedd ar ôl y llawdriniaeth.

Dim ond pedwar mis ar ôl ei llawdriniaeth, llwyddodd Sarah i gymryd rhan yn ei chyngerdd ddawns gyntaf - rhywbeth yr oedd hi wedi meddwl na fyddai'n bosibl ar un adeg.

Flwyddyn yn ddiweddarach, dychwelodd i’r ysbyty i gwrdd â’r tîm a ofalodd amdani er mwyn rhannu ei chynnydd.

Dywedodd Sarah: “Cyn y llawdriniaeth, roeddwn mewn poen parhaus, ac roeddwn i wir yn meddwl bod fy nyddiau dawnsio y tu cefn i mi. Roedd yn gyfnod anodd iawn.

“Roedd y gofal a gefais yn anhygoel. Roedd y tîm yn gefnogol iawn drwy gydol y broses, a byddaf bob amser yn ddiolchgar iddynt am hynny.

“Mae bod yn ôl yn dawnsio eto o fewn ychydig fisoedd a nawr, flwyddyn yn ddiweddarach, gan deimlo’n gryf ac yn rhydd o boen yn anhygoel. Roedd dod yn ôl i ddweud diolch yn bersonol yn bwysig iawn i mi.”

Ochr yn ochr â’i gyrfa broffesiynol, mae Sarah yn rhedeg ysgol ddawns leol, lle mae hi’n cefnogi ac yn ysbrydoli pobl ifanc i ddilyn eu hangerdd dros ddawns.

Dywedodd Mr Ganapathi: “Mae’r dull o osod clun newydd o’r pen blaen sy'n creu archoll mor fach â phosib yn dechneg rydym ni’n ei defnyddio fwyfwy ar gyfer cleifion addas. Trwy weithio rhwng y cyhyrau yn hytrach na thorri drwyddynt, gall helpu i leihau poen ar ôl y llawdriniaeth a chefnogi adferiad cyflymach yn ystod y camau cynnar.”

“Er bod y dechneg hon yn cael ei defnyddio’n helaeth mewn rhai lleoedd megis yr UDA, mae’n parhau i fod yn gymharol anghyffredin yn y DU, gyda llai na 2% o lawdriniaethau i osod clun newydd yn cael eu cynnal gan ddefnyddio’r dull hwn.

“Fel arfer, nid oes angen y rhagofalon sydd fel arfer yn ofynnol ar ôl llawdriniaeth gonfensiynol i osod clun newydd gan ddefnyddio’r dull o’r pen blaen, gan fod y risg o ddatgymalu yn isel.”

“Mae’n wych gweld Sarah yn gwneud mor dda ac yn dychwelyd i lefel uchel o weithgarwch.

“Mae ei hadferiad wedi bod yn wych, ond mae’n bwysig cydnabod nad yw hyn yn nodweddiadol i bob claf. Yn ogystal â'r dull sy'n creu archoll mor fach â phosib, mae Sarah yn heini ac yn frwdfrydig iawn, sydd wedi cyfrannu'n sylweddol at ei chanlyniad.

“Rydym yn falch iawn o’i chynnydd, ac mae bob amser yn foddhaol gweld cleifion yn adennill ansawdd eu bywyd yn dilyn llawdriniaeth.”