Neidio i'r prif gynnwy

Cydnabod Adran Achosion Brys Ysbyty Gwynedd am ymdrechion cynaladwyedd

16 Ebrill 2026

Mae Adran Achosion Brys Ysbyty Gwynedd wedi derbyn achrediad Efydd gan raglen GreenED y Coleg Brenhinol Meddygaeth Argyfwng, i gydnabod yr ymrwymiad i leihau effaith amgylcheddol wrth gynnal safonau uchel o ofal cleifion.

Mae’r rhaglen GreenED yn cynorthwyo adrannau brys ledled y DU i leihau eu hôl troed carbon ac ymgorffori arferion cynaliadwy mewn gofal bob dydd. Mae Ysbyty Gwynedd yn un o nifer o ysbytai yng Nghymru sydd wedi cael eu cydnabod yn y rownd ddiweddaraf o wobrau.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae'r adran wedi cyflwyno ystod eang o fentrau sydd â'r nod o wella cynaliadwyedd. Mae'r rhain yn cynnwys lleihau'r defnydd o bapur a thrydan, gostwng disgleirdeb cyfrifiaduron a chyflwyno arferion presgripsiynu mwy gwyrdd fel newid o feddyginiaethau y gellir eu chwistrellu i feddyginiaethau drwy'r geg lle bo hynny'n briodol yn glinigol.

Mae newidiadau pellach wedi cynnwys lleihau allyriadau sy'n gysylltiedig â staff yn teithio drwy alluogi gweithio gartref a gwneud sesiynau addysgu a chyfarfodydd adrannol ar gael ar-lein, yn ogystal â chyflwyno compostio ar gyfer gwastraff bwyd staff a newid i gyllyll a ffyrc, llestri y gellir eu hailddefnyddio neu eu hailgylchu.

Mae'r tîm hefyd wedi cymryd camau i leihau plastigau untro, gan gynnwys cyflwyno bagiau te di-blastig ac ailgylchu cymhorthion cerdded, gan ymgorffori cynaliadwyedd yn niwylliant yr adran.

Lle mae modd eu mesur, mae'r newidiadau hyn eisoes wedi arwain at arbediad blynyddol o tua 12,500 kgCO2e a £15,000, ac mae disgwyl y bydd manteision pellach na ellir eu mesur.

Dywedodd Dr Leesa Parkinson, Meddyg Ymgynghorol yn Adran Achosion Brys Ysbyty Gwynedd, sydd wedi arwain y prosiect: “Mae’r achrediad hwn yn adlewyrchu ymdrech ar y cyd gan ein tîm cyfan i wneud newidiadau ystyrlon sy’n lleihau ein heffaith amgylcheddol heb beryglu’r gofal i gleifion.

“Mae cynaliadwyedd yn gyfrifoldeb i bawb, ac mae wedi bod yn wych gweld cydweithwyr o bob rhan o’r adran – gan gynnwys timau clinigol, gweinyddol, fferyllol a chadw tŷ – yn dod at ei gilydd i gefnogi’r gwaith hwn.

“Er ein bod yn falch o fod wedi ennill statws Efydd, dim ond y dechrau yw hyn. Mae mwy y gallwn ni ei wneud o hyd, ac rydym wedi ymrwymo i barhau â'r daith hon ac adeiladu ar y cynnydd yr ydym wedi'i wneud hyd yn hyn.”

Mae'r adran yn parhau i archwilio gwelliannau pellach, gan gynnwys newid i rwymynnau tynhau a chwpanau meddyginiaeth papur, cyflwyno citiau pwythau y gellir eu hailddefnyddio, lleihau canwleiddio a phrofion gwaed diangen, a symud i daflenni gwybodaeth i gleifion sy'n seiliedig ar godau QR er mwyn lleihau'r defnydd o bapur.

Mae pob grŵp staff yn yr Adran Achosion Brys wedi chwarae eu rhan wrth gyflwyno'r gwelliannau hyn, gan ddangos ymrwymiad cyffredin i ofal iechyd mwy cynaliadwy i gleifion a chymunedau ledled Gogledd Cymru.