Mae ein prentisiaethau'n cynnig cyfle gwych i ennill arian tra byddwch yn dysgu, ennill cymwysterau cydnabyddedig a datblygu sgiliau gwerthfawr gan wneud gwahaniaeth i gymunedau yng Ngogledd Cymru.
P'un a ydych yn gadael yr ysgol, yn awyddus i newid gyrfa, neu'n awyddus i ddatblygu o fewn eich rôl bresennol, mae prentisiaethau'n cynnig llwybr ymarferol i ystod eang o yrfaoedd ar draws y Bwrdd Iechyd.
Gan weithio ochr yn ochr â chydweithwyr profiadol, byddwch yn cael profiad ymarferol tra'n astudio ar gyfer cymwysterau sydd wedi cael eu cydnabod yn genedlaethol, gan eich helpu i ennill y sgiliau a'r hyder sydd eu hangen i gael gyrfa werth chweil ym maes gofal iechyd.
Fel prentis, gallwch wneud y canlynol:
Rydym yn cynnig cyfleoedd am brentisiaethau ar draws amrywiaeth o rolau a gwasanaethau, gan gynnwys:
Efallai y bydd cyfleoedd yn amrywio trwy gydol y flwyddyn gan ddibynnu ar anghenion gwasanaeth a'r rhaglenni sydd ar gael.
Byddwch yn derbyn cymorth trwy gydol eich prentisiaeth, gan gynnwys arweiniad gan eich rheolwr, cyfleoedd i ddysgu yn y gweithle ac amser astudio pwrpasol lle bo hynny'n berthnasol.
Bydd llawer o brentisiaid yn cael rolau parhaol yn ddiweddarach neu'n parhau â'u dysgu trwy brentisiaethau lefel uwch a datblygiad proffesiynol pellach.
I gael gwybodaeth am ein cyfleoedd presennol o ran prentisiaethau, cysylltwch â'n Tîm Prentisiaethau: BCU.ApprenticeOpportunities@wales.nhs.uk
Bydd ein tîm yn fwy na pharod i roi arweiniad a'ch helpu i ddod o hyd i'r llwybr prentisiaeth sy'n iawn i chi.