Mae'r gwasanaeth Therapi Iaith a Lleferydd yn darparu asesiad, triniaeth, cefnogaeth a gofal ar gyfer pobl o bob oed sydd ag anawsterau gyda chyfathrebu neu fwyta, yfed neu lyncu (dysffagia).
Mae Therapyddion Iaith a Lleferydd (SLT) yn weithwyr proffesiynol perthynol i iechyd, ac maent wedi cofrestru gyda Chyngor Proffesiynau Gofal ac Iechyd a Choleg Brenhinol y Therapyddion Iaith a Lleferydd. Mae'r tîm hefyd yn cynnwys hyfforddwr technegol SLT (TI) - gweithwyr cymorth wedi eu hyfforddi'n arbennig i ddarparu cymorth SLT dynodedig ar draws ystod o leoliadau. Mae'r tîm SLT yn gweithio gyda chleifion, gofalwyr a theuluoedd, a gweithwyr proffesiynol eraill, megis athrawon, nyrsys, dietegwyr, therapyddion galwedigaethol a meddygon i ddarparu dull gyda'r unigolyn yn ganolbwynt iddo.
Mae therapi iaith a lleferydd o fudd i bobl o bob oed, er enghraifft:
Babanod: Mae SLT yn cefnogi babanod cynamserol gyda chyflyrau fel parlys yr ymennydd, taflod hollt a Syndrom Down sy'n cael anawsterau gydag yfed, llyncu a sgiliau chwarae a chyfathrebu yn gynnar iawn mewn bywyd.
Plant: Mae'r SLT yn cefnogi plant sydd ag anawsterau iaith, lleferydd, cyfathrebu a bwyta ac yfed. Mae'r rhain weithiau'n bodoli ochr yn ochr â chyflyrau eraill megis anawsterau dysgu a phroblemau gyda'r clyw.
Oedolion ag anawsterau dysgu: Mae'r SLT yn cefnogi oedolion sydd â chyflyrau datblygiadol megis anableddau dysgu, awtistiaeth a Syndrom Down, sydd ag anawsterau cyfathrebu neu fwyta, yfed neu lyncu
Oedolion: Mae SLT yn cefnogi oedolion ag anawsterau cyfathrebu a/neu lyncu sy'n deillio o gyflyrau fel strôc, canser y pen a'r gwddf, clefyd Parkinson's, clefyd motor niwron a dementia.
I gysylltu â’r tîm iaith a lleferydd, gweler y manylion cyswllt ar gyfer y siroedd isod:
Mae’r Digwyddiad Gyrfaoedd Ar-lein Therapi Iaith a Lleferydd Cymru Gyfan nesaf ar ddydd Gwener y 10fed o Hydref rhwng 08:50am-12:30pm.
Bydd cynrychiolwyr o bob Bwrdd Iechyd GIG a’r ddau gwrs brifysgol Therapi Iaith a Lleferydd yno i ateb eich cwestiynau.
Cewch hefyd gyfle i glywed gan fyfyrwyr sydd yn astudio’r cwrs ar hyn o bryd, Therapyddion Iaith a Lleferydd sy’n gweithio mewn amrywiaeth o feysydd a chleifion sydd wedi cael budd o dderbyn Therapi Iaith a Lleferydd.
Mae’r digwyddiad yma yn addas ar gyfer unrhyw un sydd â diddordeb astudio Therapi Iaith a Lleferydd, boed hynny yn syth o’r ysgol neu fel newid gyrfa. Mae hefyd yn addas ar gyfer pobl sydd ddim eisiau mynd i’r brifysgol i gael cymhwyster proffesiynol ond â diddordeb gweithio fel cymhorthydd Therapi Iaith a Lleferydd. Mi fydd hwn yn ddigwyddiad dwyieithog. Rydym yn croesawu archebion ar gyfer grwpiau ysgol.
Archebwch eich lle isod: