Mae dysgu sut mae ymolchi a defnyddio'r toiled yn annibynnol yn gerrig milltir pwysig yn natblygiad plentyn. Pan fydd plant yn ifanc, mae rhieni'n gwneud y dasg i'r plentyn, ond wrth iddo fynd yn hŷn, gall rhieni annog y plentyn i wneud mwy drosto ef/hi ei hun. Mae ymolchi, defnyddio'r toiled, brwsio dannedd ac edrych ar ôl y corff yn sgiliau pwysig i blentyn ei meistroli. Caiff sgiliau gwisgo a bwyta eu trafod mewn man arall.
Pethau i'w hystyried:
Am gyngor pellach, gweler y taflenni cyngor ar ddysgu sgiliau hunan ofal a sgiliau bywyd ar gyfer plant bach.
Sgiliau Ymolchi
Gall y gallu i ymolchi'n annibynnol roi synnwyr o gyflawniad i blentyn. Mae'n rhan o fynd yn hŷn. Os ydych yn defnyddio lluniau laminedig i helpu'r plentyn i gofio trefn y camau, yna gallwch eu rhoi ar wal yr ystafell ymolchi. Mae golchi'r gwallt yn rhan o'r broses yn aml ond efallai na fydd angen ei wneud yn ddyddiol. Os yw cam penodol yn cael ei anghofio'n rheolaidd (e.e. peidio rinsio'r gwallt yn iawn ar ôl ei olchi), gallwch ei uwcholeuo ar y rhestr wirio laminedig ar y wal. Mae mwy o gyngor manwl ar gael ar olchi gwallt ac ymolchi'n annibynnol.
Sgiliau Toiled
Hyfforddiant toiled yw pan fydd plentyn yn gallu eistedd a chodi oddi ar y toiled, defnyddio'r toiled, rheoli ei ddillad, sychu ei ben ôl, fflysio'r toiled a golchi ei ddwylo'n annibynnol. Gall hyn gymryd llawer o waith caled, amynedd ac ymarfer i feistroli pob cam. Mae'r plentyn angen bod yn barod neu byddwch yn gwastraffu eich amser ac yn achosi rhwystredigaeth. Mae mwy o gyngor manwl ar gael ar sychu'r pen ôl a mynd i'r toiled.
Brwsio Dannedd
Dylai plant frwsio eu dannedd ddwy waith y dydd, yn y bore a'r peth olaf gyda'r nos. Gall fod yn rhan o'r drefn ddyddiol. Gellir rhoi cynnig ar ddefnyddio gwahanol frwsys a phastiau dannedd. Efallai bod ambell i blentyn yn sensitif i flas ac ansawdd past dannedd. Mae amrywiaeth o ddyfeisiau amseru ar gael i annog 2 funud o frwsio. Mae ambell i blentyn yn cael anhawster gweld siâp 3 dimensiwn y dannedd ac mae angen cymorth gyda hyn. Mae cyngor mwy manwl ar gael ar frwsio dannedd.
Gofalu am fy nghorff ar gyfer pobl ifanc yn eu harddegau
Wrth i blant droi yn bobl ifanc, maent yn dod yn fwy ymwybodol o'u corff yn newid a'r angen i ofalu amdano oherwydd eu hymwybyddiaeth gymdeithasol gynyddol. Gall pobl ifanc fod yn amharod i gyflawni arferion dyddiol yn annibynnol ac yn aml mae angen llawer o awgrymiadau arnynt gan eu rhieni. Dros amser, mae pobl ifanc yn dod yn fwy annibynnol. Yn aml mae gan y bobl ifanc sydd ag anawsterau sgiliau motor broblemau trefnu sy'n effeithio ar eu gallu i gyflawni arferion yn annibynnol ac efallai y bydd angen strategaethau a chymorth rhieni arnynt am gyfnod hirach na'r plentyn cyffredin. Am fwy o wybodaeth gweler mislifau, sgiliau bywyd ar gyfer pobl ifanc ac awgrymiadau ar gyfer pobl ifanc.