Mae osgo eistedd da yn bwysig i ganiatáu i blant ymwneud â gweithgareddau wrth y bwrdd. Mae plant sydd ag anawsterau symud yn ei chael hi'n anodd eistedd yn eu hunfan a chynnal osgo eistedd da. Mae'n hanfodol darparu sylfaen sefydlog i'r plant fel bod ganddynt gefnogaeth i gynnal sefydlogrwydd wrth gwblhau tasgau fel ysgrifennu. Os yw plant yn gweithio'n galed i gynnal eu hosgo, nid ydynt yn gallu cymryd rhan yn y dasg wrth law. Efallai y byddant yn symud yn aml ac yn tarfu ar y dosbarth, ac efallai byddant yn colli'r cyfarwyddiadau.
Pethau i fod yn wyliadwrus ohonynt:
Beth a ddylem anelu amdano:
Mae'r llun hwn yn dangos yr osgo eistedd perffaith, dyma beth y dylem anelu amdano, yn enwedig yn yr ysgol a gartref amser bwyd a wrth wneud gwaith cartref.
Efallai y byddwch yn gweld ein taflen gyngor ar osgo ac eistedd ar gyfer ysgrifennu yn ddefnyddiol.
Sut y gallwch helpu yn y dosbarth:
Uchder y bwrdd a maint y gadair - rhy uchel neu'n rhy isel? Gall fod yn anodd sicrhau bod gan bob plentyn yn yr ystafell ddosbarth fynediad at fyrddau a chadeiriau o faint cywir, yn enwedig mewn maint dosbarthiadau mwy a ble mae ystod oedran eang mewn ystafell ddosbarth.
Mae osgo eistedd gwael yn effeithio'n fawr ar allu plentyn i roi sylw i dasgau wrth y bwrdd felly efallai y byddwch yn gweld y taflenni cyngor canlynol ar weinyddu tasgau, sylw a chanolbwyntio yn yr ystafell ddosbarth ac awgrymiadau i'w hystyried wrth wneud gweithgareddau gyda phlentyn yn ddefnyddiol.