Neidio i'r prif gynnwy

Dolenni i Wasanaethau Lleol

CAMHS
Mae'r rhan fwyaf o wasanaethau CAMHS yn gweithio gyda'r teulu cyfan i roi cymorth gydag iechyd meddwl unigolyn ifanc. Gallai hyn gynnwys dod i apwyntiadau asesu a thrin, gan ddibynnu ar oedran y plentyn a pha lefel o gymorth mae am ei gael. Gall rhywun, fel arfer eich rhieni, athro/athrawes, meddyg teulu neu chi'ch hun os ydych yn ddigon hen, eich cyfeirio am asesiad gyda CAMHS i weld pa gymorth y gallech ei gael. 

Therapi Iaith a Lleferydd
Mae'r adran SALT ar y wefan wedi'i bwriadu ar gyfer rhieni/gofalwyr gael mynediad at gyngor, cymorth ac adnoddau am ddim.

Therapi Galwedigaethol Plant
Yma gallwch gael mynediad at strategaethau a chyngor i helpu i ddatblygu sgiliau o ddydd i ddydd plentyn megis llawysgrifen, gwisgo, bwyta a gweithgareddau hunan ofal cyffredinol.

Meic
Meic yw'r gwasanaeth hunangymorth i blant a phobl ifanc hyd at 25 oed yng Nghymru. O ganfod beth sy'n mynd ymlaen yn eich ardal leol i gymorth yn delio â sefyllfa anodd, bydd Meic yn gwrando hyd yn oed pan na fydd neb arall yn gwneud hynny. Ni fydd yn eich barnu a bydd yn rhoi cymorth trwy roi gwybodaeth, cyngor defnyddiol a'r cymorth sydd ei angen arnoch i wneud newid.

Mind
Mae Mind yn gymuned ymroddedig o bobl yng Nghymru na fyddant yn ildio hyd nes bod pawb sydd â phroblem iechyd meddwl yn cael y cymorth a'r parch maent yn eu haeddu.

Gweithredu dros Blant
Mae Gweithredu dros Blant yn gweithio yng Nghymru er 1911. Maent yn cefnogi plant, phobl ifanc a theuluoedd sy'n agored i niwed yng Nghymru trwy bron i 80 o brosiectau a gwasanaethau, gan weithio mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol, byrddau iechyd a sefydliadau trydydd sector eraill.

Barnardo's
Mae'r tîm yn darparu ystod o wasanaethau i blant, pobl ifanc a theuluoedd fel: gwasanaeth defnyddio/camddefnyddio sylweddau plant a phobl ifanc, prosiectau garddio a rhandiroedd a llawer iawn mwy. 

STAND Gogledd Cymru
Yn cynnig prosiectau grwpiau ieuenctid i blant sydd â SLCN ac SEN. Maent yn cynnal grwpiau cymdeithasol yn ogystal â rhaglenni ASD penodol fel Rhaglen Teen Life.

TAPE
Elusen gerddoriaeth a ffilmiau yn cynnig clybiau a gweithgareddau creadigol/artistig i bob oedran e.e. mae Ghostbuskers yn grŵp canu i'r rheiny sydd ag anableddau. Yn canu caneuon cyfoes a chlasurol gyda chyfle i gymdeithasu a chwarae offerynnau. O unrhyw oedran, unrhyw anabledd.

Solihull Approach 
Cyrsiau ar-lein arobryn am fod yn rhiant.